Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treth y Cyngor: Newid cyfeiriad / amgylchiadau

Peidiwch ag anghofio dweud!
Rhaid i chi ddweud wrthym ni ar unwaith os oes newid yn eich amgylchiadau. Gallai methu â gwneud hyn arwain at  Orfodi Cosb Treth y Cyngor arnochOs ydych chi'n anghytuno â'r gosb sy'n cael ei gorfodi arnoch, mae'n bosibl y byddwch yn awyddus i drafod hyn gyda ni yn gyntaf. 

Neu, gallwch wneud apêl yn uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.  Efallai yr hoffech ddweud wrth y gwasanaethau canlynol eich bod yn symud: , Etholiadau, Gwasanaethau Cymdeithasol, Budd-daliadau

Er mwyn i ni allu diweddaru eich cyfrif Treth y Cyngor, dywedwch wrthym:

Rhoi gwybod am newid enw

Pan fyddwch chi wedi newid eich enw ee wedi priodi ...

Rydych chi'n symud o fewn Powys

Pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu /adfeddiannu neu pan fydd eich tenantiaeth wedi dod i ben a bod pawb yn eich cartref yn symud tŷ ond yn aros ym Mhowys.

Rydych chi'n symud allan o Bowys

Pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu /adfeddiannu neu pan fydd eich tenantiaeth wedi dod i ben a bod pawb yn eich cartref yn symud o Bowys i ardal arall.

Rydych yn symud i Bowys (Cofrestru)

Rydych chi'n symud i Bowys o ardal arall / Nid oeddech chi'n talu treth y cyngor yn eich cyfeiriad diwethaf / Rydych chi'n landlord / Mae gennych chi gartref sy'n adeilad newydd neu'n gartref wedi ei drosi.

Mae rhywun yn eich cartref yn troi'n 18

Oni bai eu bod yn fyfyrwyr neu os ydych yn parhau i dderbyn budd-dal plant amdanynt.

Mae rhywun yn symud allan neu mewn / nôl i'ch cartref

Trefniadau ar gyfer myfyrwyr / Hawlio neu roi'r gorau i hawlio deiliadaeth sengl / Pobl mewn ysbyty, cartrefi gofal neu'n cael eu cadw'n gyfreithiol.

Rydych yn symud mewn/symud nôl gyda rhywun (rhywun arall yn talu'r bil)

ee symud yn ôl at eich rhieni a nhw yw'r rhai a fydd yn talu treth y cyngor neu rydych yn symud i lety arall a rennir.

Hawlio disgownt neu ostyngiad

Mae Treth y Cyngor yn seiliedig ar 2 neu fwy oedolyn cymwys yn byw yn yr un cartref. Dywedwch wrthym am unrhyw sefyllfa arall fel y gallwn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth y Cyngor a dim mwy.

Mae rhywun wedi marw

Mae angen i ni wybod pan fydd oedolyn o'ch cartref wedi marw fel y gallwn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth y Cyngor.

Rydym yn newid eich manylion banc

Llenwch ein Ffurflen Debyd Uniongyrchol ar-lein ar gyfer Treth y Cyngor yma

Help i bobl ag anabledd neu namau

Mae cynllun Gostwng Treth y Cyngor i'r Anabl yn cynnig gostyngiad i brif gartref rhywun ag anabledd parhaol a sylweddol

Dywedwch wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol pan fyddwch yn symud ty

Os ydych chi'n gleient i Wasanaethau Cymdeithasol ym Mhowys, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn symud tŷ fel y gallwn gysylltu â chi.

Hawlio Eithriad

Gallai eiddo heb bobl yn byw ynddo, eiddo heb ddodrefn, eiddo gwag neu anghyfannedd gael ei eithrio o Dreth y Cyngor. Mae mathau penodol o eiddo hefyd wedi'u heithrio pan fyddant wedi'u neilltuo at bwrpas arbennig, megis bod yn gartref i fyfyrwyr neu bersonél y lluoedd arfog yn unig.