Toglo gwelededd dewislen symudol

Talu Rhent neu Ffioedd Tai

Talu Trwy Ddebyd Uniongyrchol

Gallwch dalu eich rhent trwy Ddebyd Uniongyrchol misol ar unrhyw ddiwrnod o'r mis.

Gallwch naill ai sefydlu Debyd Uniongyrchol dros y ffôn, gan ddileu'r angen am ffurflenni papur, neu gallwch lenwi'r ffurflen arlein

Debyd Uniongyrchoi

 

Talu Ar-lein

Gallwch dalu eich bil ar-lein gyda cherdyn credyd neu ddebyd trwy ddefnyddio ein cyfleuster Talu Ar-lein.

Ni fydd manylion eich cerdyn yn cael eu cadw gan y Cyngor, ac ni fyddant i'w gweld neu ar gael y tu allan i'r rhwydwaith bancio diogel ar unrhyw adeg.

Talu rhent neu ffioedd tai ar-lein

 

Llinell dalu 24-awr

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn 24 awr i dalu eich rhent trwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd trwy ein llinell talu awtomataidd: 03300 889 578

Dydyn ni ddim yn anfon cyfriflenni rhent yn awtomatig. I helpu i gadw golwg ar eich cyfrif rhent, gallwn anfon cyfriflenni bob 3, 6 neu 12 mis naill ai drwy'r post neu'r e-bost. I sefydlu trefniant fel hyn, cysylltwch â ni ar  01597 827464.

 

Wyddoch chi y gallwch chi nawr weld eich Cyfrif Rhent trwy ein gwefan

I gysylltu eich cyfrif rhent â'ch proffil dilynwch y camau isod:

Gallwch hefyd ofyn am gyfriflen ar unrhyw bryd drwy e-bostio housing@powys.gov.uk neu ffonio 01597 827464.

 

Gordaliadau

Os yw eich cyfrif rhent mewn credyd ac mae arian yn ddyledus i chi, gallwch ofyn am ad-daliad.

Hawlio ad-daliad am or-daliad o rent tai

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau