Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Help i ddod o hyd i gartref gofal

Dod o hyd i Gartref Gofal ym Mhowys

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano/amdani yn meddwl am wneud cartref gofal yn lle preswyl parhaol, defnyddiwch y ddolen isod i chwilio am gartref gofal ym Mhowys a darllenwch y cyngor perthnasol.

 

Dod o hyd i gartref gofal ym Mhowys (carehome.co.uk)

 

Symud i Gartref Preswyl neu Ofal Nyrsio

Mae gwneud penderfyniad i symud - fel arfer i rywle yr ydych yn meddwl y cewch fwy o ofal - yn benderfyniad anodd ac efallai hwn fydd y penderfyniad anoddaf y byddwch wedi gorfod ei wneud. 

Mae gan AgeUK llawer o wybodaeth i'ch helpu.  Ewch i ddewisiadau "Cartrefi Gofal" ar wefan AgeUK.

Yn y bôn, mae Gofal Ychwanegol yn cynnig llety lle mae gan drigolion eu fflatiau eu hunain mewn adeilad gyda staff cynorthwyol ar y safle. Gallwch weld mwy am y cynllun yma: Gofal Ychwanegol

Sut alla'i gael help?

Mae'n bwysig eich bod yn dewis cartref gofal sy'n cwrdd â'ch anghenion. Mae gennych hawl i gael asesiad er mwyn gweld yn union beth yw eich anghenion, p'un ai os yw eich gofal yn mynd i gael ei ariannu gan y Wladwriaeth neu'n cael ei dalu'n breifat. Hyd yn oed os byddwch yn talu'n breifat efallai byddai'n ddefnyddiol i gael asesiad o'ch anghenion os oes siawns y byddwch angen gofyn am nawdd gan y cyngor yn y dyfodol.

I ofyn am asesiad, i weld os ydych yn gymwys ac i weld y costau, defnyddiwch y botwm isod:

Gofyn am asesiad Gwneud atgyfeiriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal

 

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau