Toglo gwelededd dewislen symudol

Daliadau Uniongyrchol

direct payments

"Gyda thaliadau uniongyrchol, chi sy'n gyfrifol fel y gallwch fyw'n annibynnol"

Gyda thaliadau uniongyrchol, gallwch drefnu eich gwasanaethau gofal neu gymorth eich hun yn lle derbyn pecyn gofal neu gymorth sy'n cael ei drefnu gan yr Awdurdod Lleol.   Er mwyn gallu derbyn taliadau uniongyrchol, bydd angen i chi gael asesiad gan wasanaethau cymdeithasol ac i fod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Image of an assessment

Gyda thaliadau uniongyrchol, bydd gennych fwy o reolaeth dros y cymorth rydych ei angen, gallu gwneud dewisiadau pwysig am eich gofal a sicrhau mwy o hyblygrwydd na'r hyn a drefnir gan y cyngor.   Fodd bynnag, rhaid defnyddio'r taliadau i ateb unrhyw anghenion y mae gwasanaethau cymdeithasol wedi cytuno iddynt.

I allu derbyn taliadau uniongyrchol, mae'n rhaid i ni fod yn fodlon ei bod yn bosibl ateb eich anghenion fel hyn a'ch bod chi'n gallu rheoli'r taliadau uniongyrchol, un ai ar eich pen eich hun, neu gydag ychydig o help llaw.

Er mwyn derbyn taliadau uniongyrchol, bydd angen asesiad o'ch anghenion gofal.  Os oes gennych weithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal, dylech gysylltu â nhw.  Os na, cliciwch ar y ddolen 'Gwneud cais' isod, neu cysylltwch â ni.