Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth i rai sydd wedi colli eu golwg

Os oes gennych chi nam ar eich golwg sy'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, mae help ar gael. Rydym yn helpu oedolion (16+) sydd â nam ar y golwg gyda gwybodaeth a chymorth i'w helpu i ymdopi'n annibynnol, yn eu cartrefi eu hunain ac o gwmpas y lle.

Pa fath o help sydd ar gael?

Rydym yn cyflogi Swyddogion Adsefydlu gyda chymwysterau llawn i asesu eich anghenion.

Gallwn hefyd eich helpu i ddysgu sgiliau newydd a darparu gwybodaeth i ofalwyr.  

P'un a ydych yn chwilio am wybodaeth yn unig, neu gyngor a chymorth mwy manwl, mae croeso i chi gysylltu â  ni. Os hoffech chi gael eich asesu,gallwn drefnu hyn, yn eich cartref eich hun fel arfer.  

Beth mae asesiad yn ei gynnwys?

Bydd yr asesiad yn dod o hyd i'r problemau y mae'r nam ar eich golwg yn eu hachosi o ddydd i ddydd. Bydd y Swyddog Adsefydlu yn gweithio gyda chi i lunio cynllun adsefydlu a fydd yn rhestru'r pethau sydd eu hangen arnoch i fyw'n annibynnol. 

Gallai hyn amrywio o

  • Gosod marciau amlwg ar eich ffwrn fel bod deialau'r ffwrn yn haws eu defnyddio
  • Addysgu eich gofalwr i'ch arwain chi'n ofalus
  • Neu gefnogaeth sy'n fwy cymhleth, er enghraifft addysgu symudedd annibynnol yn yr awyr agored drwy ddefnyddio ffon

Byddwch yn gallu gweithio trwy'ch cynllun adsefydlu yn ôl eich cyflymder eich hun.   

Gwneud atgyfeiriad

Ydych chi'n byw yn ardal y Trallwng neu'r Drenewydd, rhwng 20-45 oed ac yn mwynhau cwrdd â phobl newydd?

Image of a person walking with a white cane

Rydyn ni'n grŵp agored a chyfeillgar sy'n cyfarfod bob mis i rannu profiadau, syniadau a chymdeithasu. Ein nod yw darparu cymorth ymysg ein gilydd i bobl ddall ac â golwg rhannol, er mwyn cynorthwyo annibyniaeth, lleihau arwahanrwydd a chael lot o hwyl.

Ble: Gwesty'r Royal Oak, Y Groes, Y Trallwng, Powys. SY21 7DG.

Pa mor aml: Bob mis. Mae'r dyddiadau a'r diwrnodau'n amrywio.

Cysylltwch â Pat Jones: 07484 870 516 am fanylion y cyfarfod nesaf.

Neu cysylltwch â Rachel Llewellyn, Hwylusydd Cymunedol RNIB ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru ar 07510 382496 neu ebost Rachel.llewellyn@rnib.org.uk

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau