Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth i Oedolion

Pa fath o help sydd ar gael?

Mae'n bosibl cael cefnogaeth i oedolion gydag awtistiaeth trwy Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys ac mae'n cynnwys asesiad gwneud diagnosis o awtistiaeth mewn oedolion a chymorth ôl-diagnosis.  Mae'r daflen (PDF) [246KB] yn rhoi esboniad pellach o'r broses.

Mae asesiad gwneud diagnosis o awtistiaeth mewn oedolion yn cynnwys y camau sylfaenol canlynol a bydd yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ym Mhowys:

  • Sgrinio -  i'w wneud gan unrhyw weithiwr proffesiynol neu unigolyn sy'n gweithio yn y maes, megis Meddyg Teulu / gweithiwr proffesiynol arall neu weithiwr cymdeithasol neu atgyfeirio eich hun. 
  • Atgyfeirio - Y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yw'r un man cyswllt ar gyfer unrhyw atgyfeiriadau.
  • Dyrannu -  Bydd tîm o weithwyr proffesiynol cymwys o wahanol broffesiynau'n ystyried yr atgyfeiriad mewn cyfarfod misol.  Mae'n bosibl gofyn am ragor o wybodaeth ar yr adeg hon os na dderbyniwyd ffurflen atgyfeirio, neu nad yw'r wybodaeth yn gyflawn. 
  • Asesu - Bydd apwyntiadau diagnostig yn cael eu cynnal gan aelodau hyfforddedig y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig neu gan dimoedd cymunedol. 
  • Adnabod anghenion cymorth -Bydd rhan o'r asesiad yn cynnwys gweld beth yw eich anghenion o ran cymorth ychwanegol.
  • Adroddiad - Byddwn yn llunio ac yn rhannu adroddiad gyda chi cyn y byddwn yn ei rannu'n fwy eang (gyda'ch caniatâd chi)

Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gweithio gyda llwyth o sefydliadau eraill i ddatblygu gwasanaethau i oedolion gydag awtistiaeth.

 

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau