Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwynion yr ysgol

Ni allwn ymateb i gwynion am ysgolion unigol gan mai cyrff llywodraethu'r ysgolion sy'n gyfrifol am drafod y cwynion hynny.
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am ysgol unigol, gofynnwch i'r ysgol dan sylw am gopi o'i gweithdrefn gwyno.
 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwynion ysgol yn awgrymu bod ysgolion yn dilyn y broses sylfaenol isod:

1.    Codi'r gwyn gydag aelod o staff yn anffurfiol yn y lle cyntaf (Gall hwn fod yn rhywun dynodedig a nodir yn nodiadau proses yr ysgol unigol.)

2.    Os ydych yn anhapus gyda'r ymateb yna, codwch y gŵyn yn ffurfiol drwy'r Pennaeth, a fydd yn ymchwilio neu'n cael aelod o staff i ymchwilio ar ei ran cyn rhoi ymateb (Cam 1).

3.    Os ydych yn dal yn anfodlon â'r ymateb, yna cewch anfon y gwyn at gadeirydd y llywodraethwyr yn ffurfiol, a bydd ef neu hi'n ymchwilio (Cam 2).

4.    Os ydych yn anfodlon o hyd, yna cewch fynd â'r gwyn i Gam 3, sef cyfarfod pwyllgor cwynion y corff llywodraethu.

Ar ôl y cam yma, ni all yr awdurdod lleol ond dod ynghlwm os yw'r achwynydd yn credu nad yw'r ysgol wedi dilyn ei phroses gwyno ei hun yn gywir. Ni chaiff yr Awdurdod Lleol wrthdroi canlyniad a gyrhaeddwyd gan ysgol.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Cwynion am aelod o staff mewn ysgol

Os yw'r gwyn o natur diogelu troseddol lle mae plentyn neu blant mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a rhowch wybod i'r heddlu am y sefyllfa. Os oes gennych gwyn am aelod o staff mewn ysgol, dylech godi'r gwyn â'r ysgol yn uniongyrchol. Dilyn proses gwyno'r ysgol yw'r unig ffordd i ymdrin â'ch cwyn.

Y Cwricwlwm ac Addoliad Crefyddol

Mae ein polisi ar drafod cwynion am y cwricwlwm ac addoli ar y cyd yn unol ag amodau Adran 409 Deddf Addysg 1996. Cyngor Sir Powys yw'r Awdurdod Lleol (Yr ALl).

Mae'r polisi wedi cael ei lunio yn dilyn ymgynghoriad gyda phenaethiaid a llywodraethwyr ysgolion ac wedi'i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r trefniadau yn cynnwys cwynion a wneir am gyflawni dyletswyddau neu ymarfer pwerau gan y cyngor neu gorff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan y cyngor. 

Mae'r ddogfen sy'n nodi ein trefniadau ar gael i'w darllen ym mhob ysgol a gynhelir gan y cyngor, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac mewn swyddfeydd addysg. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn o dan y trefniadau hyn, byddwn yn rhoi copi i chi. Bydd copi o'r cylchlythyr cyfarwyddyd a gyhoeddir gan y Swyddfa Gymreig 26/89 ar gael hefyd.

Cwynion am y Cyngor

Ar gyfer pob cwyn arall, edrychwch ar ein tudalennau ar sut i wneud cwyn