Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treth y Cyngor: Bandiau Prisio Eiddo

Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n crynhoi ac yn cadw'r rhestr Treth y Cyngor ar gyfer eiddo domestig. 

Cyngor Sir Powys sy'n gyfrifol am filio a chasglu Treth y Cyngor gan gynnwys rhoi unrhyw ryddhad, disgownt neu eithriad rhag talu.

Ni sydd wedyn yn gosod swm Treth y Cyngor i bob band.  Gallwch weld ym mha fand mae eich eiddo chi neu os ydych chi'n credu bod eich eiddo yn y band anghywir, gallwch herio hynny trwy fynd i wefan y swyddfa brisio - manylion isod.

Bandiau Eiddo

Sut y caiff eiddo domestig eu hasesu ar gyfer bandiau Treth y Cyngor

Gallwch wirio band treth y cyngor ar eiddo a'r pris blynyddol yma 

Gwerthoedd band eiddo

  • A        Hyd at £44,000
  • B        £44,001 - £65,000
  • C        £65,001 - £91,000
  • D        £91,001 - £123,000
  • E        £123,001 - £162,000
  • F        £162,001 - £223,000
  • G        £223,001 - £324,000
  • H        £324,001 - £424,000
  • I        £424,001 ac yn uwch

Rhagor o wybodaetham eich band Treth Gyngor

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cynnal RhestrBrisio y Dreth Gyngor. Mae hyn yn cynnwys gosod eiddo newydd o fewn band Treth Gyngor a newid bandiau ar gyfer eiddo pan fo angen. Er mwyn deall pam bod eich eiddo mewn band penodol, ewch i GOV.UK a chwiliwch am Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth Gyngor - GOV.UK (www.gov.uk) 

Gallwch ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu'ch band Treth gyngor os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir a'ch bod wedi bod yn drethdalwr am lai na chwe mis, neu fod eich band wedi newid yn ystod y chwe mis diwethaf. Os na fydd hyn yn berthnasol gallwch ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio o hyd adolygu'ch band Treth Gyngor, ond bydd angen i chi roi tystiolaeth ategol gref sy'n dangos pam eich bod yn credu bod eich eiddo yn y band anghywir. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i GOV.UK a chwilio am Challenge your Council Tax band: Overview - GOV.UK (www.gov.uk). Mae'r gwasanaeth ar-lein yn caniatáu i chi wirio'ch band a chyflwyno her os ydych o'r farn y gallai'ch band fod yn anghyw

Herio Band

Dyma eiriad awgrymedig i'w gopïo ac ychwanegu at eich gwefan: Gallwch ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu'ch band Treth Gyngor os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir a'ch bod wedi bod yn drethdalwr am lai na chwe mis, neu fod eich band wedi newid yn ystod y chwe mis diwethaf. Os na fydd hyn yn berthnasol gallwch ofyn iAsiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu'ch band Treth Gyngor, ond bydd angen i chi roi tystiolaeth ategol gref sy'n dangos pam eich bod yn credu bod eich eiddo yn y band anghywir.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am herio'ch band Treth Gyngor ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'r gwasanaeth ar-lein yn caniatáu i chi wirio'ch band a chyflwyno her os ydych o'r farn y gallai'ch band fod yn anghywir.

Eiddo domestig sy'n adfail neu'n wag

Busnesau yn y cartref

Bythynnod gwyliau ac unedau hunangynhwysol