Toglo gwelededd dewislen symudol

Esbonio Trethi Busnes

Trethi Busnes yw'r ffordd y bydd busnesau a'r rhai sy'n defnyddio eiddo annomestig yn cyfrannu tuag at gostau gwasanaethau lleol.

Y Cyngor sy'n casglu trethi busnes ac yn ei anfon i lywodraeth ganolog sy'n ailddosbarthu'r arian nôl i gynghorau lleol yn ôl nifer y bobl sy'n byw yn yr ardal.  Yr arian hwn,  arian treth y cyngor a nawdd gan y llywodraeth sy'n talu am wasanaethau'r cyngor. 

Mae'r ailbrisiad nesaf o drethi busnes ar y gweill yng Nghymru a Lloegr - Ailbrisiad 2023.

O 1 Ebrill 2023, dim ond Gwiriad yn erbyn rhestr ardrethu 2023 y bydd cwsmeriaid yn gallu ei wneud.

 

Gan y bydd rhestr ardrethu 2017 yn cael ei chau, dim ond dan rhai amgylchiadau cyfyngedig y gellir gwneud diwygiadau pellach iddi. Er enghraifft:

 

 

  • Yn dilyn Gwiriadau heb eu cwblhau a gyflwynwyd cyn 1 Ebrill 2023 ac unrhyw heriau ac apeliadau dilynol
  • Gall y VOA newid rhestr 2017 hyd at 31 Mawrth 2024. Mae hyn yn ein galluogi i glirio achosion/adroddiadau cyfredol ac yn eich galluogi i gyflwyno adroddiadau sydd ag elfen ôl-weithredol yn ymwneud â rhestr 2017. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i restr 2017, byddwn yn hysbysu'r cwsmer bod ganddynt yr hawl i wneud Gwiriad o fewn 6 mis i ddyddiad ein newid.
  • Mae gan gwsmer yr hawl i herio rhestr 2017 ar sail penderfyniad tribiwnlys neu lys, ar yr amod bod Gwiriad wedi'i wneud erbyn 30 Medi 2023.

Ar ôl 31 Mawrth 2024 dim ond oherwydd her neu apêl y gellir newid rhestr 2017.

Mae darparu eich gwybodaeth rhent yn sicrhau bod y trethi busnes yr ydych chi'n eu talu yn gywir. Os ydych yn derbyn cais ynglŷn â gwybodaeth rhent, prydles a manylion perchonogaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ewch arlein a chwblhewch y ffurflen.

Mae'n cymryd llai na 30 munud i sicrhau bod eich trethi busnes yn gywir.

Gallwch ddarganfod mwy wrth ymweld â www.gov.uk/government/news/providing-rentalinformation-for-revaluation-2023

Gweler llyfryn Treth y Cyngor a Threthi Busnes cliciwch yma:Treth Gyngor - Taliadau Fesul Ardal - Cyngor Sir Powys