Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Presenoldeb yn yr ysgol a lles

Cymorth a Chyngor ym Mhowys

Gall sefydlu patrymau presenoldeb da o oedran cynnar helpu plant yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon yn cyflawni canlyniadau gwell yn eu harholiadau TGAU na phlant gyda phresenoldeb gwael. Mae plant sy'n colli'r ysgol hefyd yn colli cyfleoedd cymdeithasol a mynediad at wasanaethau cyffredinol fel arweiniad gyrfaoedd, iechyd, chwarae, chwaraeon, lles a gweithgareddau creadigol.

Gwyddom y gall plant sy'n colli hyd yn oed ychydig bach o addysg syrthio'n ôl yn gyflym iawn. Gall bod yn hwyr yn rheolaidd achosi aflonyddwch, pryder, a phroblemau cymdeithasol ac academaidd.

Dylai pob plentyn oedran ysgol fod yn yr ysgol, mewn pryd, bob dydd pan fydd yr ysgol ar agor - oni bai nad oes modd osgoi'r rheswm dros fod yn absennol. Mae gan ysgolion ddyletswydd gyfreithiol i gyhoeddi ffigurau presenoldeb ac i hyrwyddo presenoldeb. Ond yn yr un modd, mae gan rieni ddyletswydd a chyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Yn ogystal, mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i hyrwyddo a gorfodi presenoldeb.

Beth allaf ei wneud i sicrhau bod fy mhlentyn yn mynychu'r ysgol?

Rydym yn deall y gall godi'r plant, eu paratoi a mynd â nhw allan o'r tŷ bob bore fod yn anodd weithiau, yn enwedig os nad yw eich plentyn am fynd i'r ysgol. Fodd bynnag, dylech wneud pob ymdrech i gefnogi presenoldeb. Gallwch wneud hyn drwy'r canlynol:

1.   Bod yn ymwybodol o bolisi presenoldeb eich ysgol a chysylltiadau a enwir.

2.   Sicrhau arferion da yn ystod y tymor. Mae arferion cysgu da'n hanfodol i gefnogi presenoldeb da.

3.   Cynllunio a pharatoi ymlaen llaw ar gyfer y diwrnod / yr wythnos i ddod.

4.   Bod yn brydlon.

5.   Cymryd diddordeb yn addysg eich plentyn a chreu diwylliant dysgu cadarnhaol yn y cartref, lle mae addysg yn cael ei gwerthfawrogi.

Beth allaf ei wneud i gefnogi fy mhlentyn os ydynt yn anhapus yn yr ysgol?

Os ydych chi'n amau bod eich plentyn yn anhapus neu'n colli'r ysgol, mae ymyrraeth gynnar yn allweddol. Dylech roi cynnig ar y canlynol:

1.   Siarad â'ch plentyn i ganfod beth yw'r materion.

2.   Cynnig cymorth i fynd i'r afael â'r problemau hyn.

3.   Cysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol a gofynnwch am gyngor a chymorth. Cytuno ar gynllun gweithredu gyda dyddiadau adolygu rheolaidd.

4.   Gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod nad ydych yn derbyn eu bod yn colli'r ysgol am unrhyw reswm, ond byddwch yn effro i unrhyw faterion rydych wedi'u canfod a sylwi arnynt

5.   Os yw eich plentyn yn colli'r ysgol - cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol a gweithiwch gyda nhw i fynd i'r afael â'r materion yn gyflym.

Beth fydd yr ysgol yn ei wneud os bydd gan fy mhlentyn bresenoldeb gwael?

1.   Bydd yr ysgol yn gweithio gyda chi'n uniongyrchol ac yn cynnal cyswllt rheolaidd gan gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus.

2.   Bydd yr ysgol yn cadw cofrestr presenoldeb briodol - gall absenoldeb gael ei awdurdodi neu gall fod heb awdurdod

3.   Gall yr ysgol gynnig Cymorth Tîm Amlasiantaethol, drwy'r broses CAF a/neu wneud atgyfeiriadau uniongyrchol i asiantaethau eraill a / neu'r Awdurdod Lleol i gael rhagor o gyngor ac arweiniad cymorth.

4.   Bydd absenoldeb heb awdurdod, sy'n is na 90% nad yw'n gwella, yn symbylu cyfres o gamau gweithredu yn yr ysgol; cysylltiadau, llythyrau a Chyfarfodydd Gwella Presenoldeb a fydd yn cael eu cofnodi. Mae pob ysgol ym Mhowys yn dilyn "Llwybr Presenoldeb" yr Awdurdod Lleol.

5.   Os bydd absenoldeb heb awdurdod yn parhau ac yn disgyn islaw'r trothwy (80 - 85%), gall yr ysgol wneud atgyfeiriad ffurfiol i Wasanaeth Lles Addysg yr Awdurdod Lleol i'w harchwilio ymhellach.

Swyddogion Lles Addysg

Mae tîm bach o Swyddogion Lles Addysg yn gwasanaethu pob ysgol ym Mhowys. Maen nhw'n darparu cyswllt rhwng yr ysgolion, gwasanaethau addysg, teuluoedd, plant a phobl ifanc. Prif dasg Swyddogion yw annog a gwella presenoldeb ysgol gyfan, cefnogi disgyblion / teuluoedd unigol, a chyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol yr Awdurdod Lleol. Gall y Gwasanaeth Lles Addysg gynnig cyngor, arweiniad, a chymorth, a gallant eich cyfeirio at wasanaethau eraill. Maen nhw'n gweithio'n agos â gwasanaethau iechyd, gyrfaoedd, cynhwysiant ieuenctid, yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae'n bwysig cofio, os nad oes rhesymau dilys dros beidio â mynychu'r ysgol, bod amrywiaeth o fesurau cyfreithiol y gall yr Awdurdod eu gweithredu. Gall hyn gynnwys cyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig, Erlyniadau Addysgol, Gorchmynion Goruchwylio Addysg a Gorchmynion Mynychu'r Ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r tîm Gwasanaeth Lles Addysg drwy e-bost ar: educationwelfare@powys.gov.uk

 

Cysylltiadau Lles Ysgol

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Twitter: twitter.com/@Powyscc

Rhowch sylwadau am dudalen yma