Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyllidebau ysgol a chyllid

Fforwm Ysgolion

Yn ôl Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003, mae'n rhaid i bob Cyngor sefydlu Fforwm Ysgolion.  Mae'r Fforwm hwn yn hanfodol i ddatblygu deialog hyderus a deallus rhwng y Cyngor ac ysgolion ar faterion yn ymwneud â'r gyllideb.  Mae hyn yn cynnwys lefelau ariannu ysgolion am y flwyddyn i ddod, pwysau ar gyllidebau'r dyfodol, newidiadau i'r fformiwla ariannu lleol ac adolygu contractau / cytundebau lefel gwasanaeth am wasanaethau i ysgolion.

Mae'r Cyngor yn ymgynghori â'r Fforwm Ysgolion bob blwyddyn ar faterion yn ymwneud â chyllideb ysgolion ac adolygu'i Gynllun ar Ariannu Ysgolion.  Mae'r Fforwm yn gorff ymgynghorol a chynghori, ac nid yw'n gwneud penderfyniadau.

Mae Fforwm Ysgolion Powys yn cynnwys 23 o aelodau, ac nid yw mwy na chwarter ohonynt ddim yn cynrychioli ysgolion.  Rhaid i gynrychiolwyr ysgolion gynnwys nifer gyfatebol o gynrychiolwyr o blith ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a rhaid i o leiaf un ohonynt gynrychioli ysgol arbennig.  Hefyd, rhaid cael o leiaf un rhiant lywodraethwr.

2023 Aelodau presennol

Yn Cynrychioli Llywodraethwyr Ysgolion

Graham Taylor, Ysgol Gynradd Gymunedol yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr (Cadeirydd)
Maurice Thorn, Ysgol Calon Cymru
Huw Pattrick, Ysgol Maesydderwen
Bev Matthews, Ysgol y Mynydd Du
Margot Jones, Ffederasiwn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Llanidloes
Sara Davies, Ysgol Uwchradd Aberhonddu
Jenny Miller, Ysgol Penmaes
Kath Roberts-Jones, Ysgol Brynllywarch
Carol Rowlands, Ysgol Gynradd Caersws

Yn Cynrychioli Penaethiaid Ysgolion Cynradd

Jess Stuart-Lyon, Ysgol Trefonnen
Rob Francis, Ysgol Gynradd Crughywel
Bethan G Jones, Ysgol Llanbrynmair
Ashley Bennett, Ysgol Gynradd Pontsenni
1 swydd wag    

Yn Cynrychioli Penaethiaid Ysgolion Uwchradd

Claire Jones, Ysgol Uwchradd Crughywel
Richard Jenkins, Ysgol Uwchradd Aberhonddu
1 swydd wag

Yn Cynrychioli Penaethiaid Ysgolion Arbennig

Angharad Bryn-Jones, Ysgol Penmaes

Yn Cynrychioli Cyrff Proffesiynol/Undebau Llafur

Danielle Hillidge (NASUWT)
Dan Owen (ASCL)
1 swydd wag (Cynrychiolydd staff cymorth)

Yn Cynrychioli Awdurdodau Esgobaethol

John Meredith        Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol

Arsyllwyr

Cynghorydd Peter Roberts (Aelod Cabinet dros Bowys yn Dysgu)
Cynghorydd David Thomas (Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol)
Cynghorydd Gwynfor Thomas (Cadeirydd Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau)

Cyllido Ysgolion

Mae'r Cynllun Ariannu Ysgolion yn nodi'r berthynas ariannol rhwng yr Awdurdod a'r ysgolion a gynhelir sy'n cael eu hariannu gan y Cyngor.  Mae'n cynnwys gofynion o ran rheoli cyllid a materion cysylltiedig, sy'n rhwymo'r Awdurdod ac ysgolion.

Mae'r Cynllun yn berthnasol i ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion a gynorthwyir, ysgolion sefydledig ac ysgolion cymunedol arbennig sy'n cael eu cynnal gan yr Awdurdod.

Lawrlwytho cynllun ariannu ysgolion Powys (PDF) [407KB]

Ariannu Ysgolion - Datganiad Cyllideb Adran 52

Yn ôl Rheoliadau Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i bob Awdurdod Addysg Lleol gyhoeddi Datganiadau Adran 52 yn flynyddol.

  • Rhan 1 - manylion y gwariant a gynllunnir ar gyfer ysgolion unigol.
  • Rhan 2 - gwybodaeth ar fethodoleg ar bennu Cyfrannau Cyllideb Ysgolion
  • Rhan 3 - gwybodaeth ar gyfrannau cyllideb pob un o ysgolion yr awdurdod.

Rhan 1

Rhan 2

Rhan 3