Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofynnwch am Gymorth am Ddigartrefedd

Os oes gennych argyfwng, fel atgyweiriadau neu ddigartrefedd, a bod angen i chi gysylltu â ni pan fydd ein swyddfeydd ar gau ar ôl 5pm neu ar benwythnosau neu wyliau banc, ffoniwch 01597 827464. Ymdrinnir ag unrhyw alwadau nad ydynt yn cael eu dosbarthu fel blaenoriaeth ar y bore cyntaf y bydd y swyddfeydd yn ailagor ar ôl y penwythnos neu Wyliau'r Banc.

Os ydych chi'n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn 56 diwrnod, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith inni ddarganfod mwy am eich sefyllfa a gweithio gyda chi i atal neu leddfu'ch digartrefedd.  Dechreuir y broses hon pan ofynnwch inni am gymorth gyda'ch sefyllfa o ran bod â rhywle i fyw.  Mae pob achos yn wahanol, a bydd yr ymholiadau a'r cymorth a ddarparwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych chi'n ddigartref, yn gymwys am gartref, mewn angen â blaenoriaeth ac nad oes gennych unrhyw le i fyw ynddo dros dro, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael cynnig rhywle i fyw yn y tymor byr tra byddwn yn darganfod mwy am eich sefyllfa ac yn gweithio gyda chi i sicrhau cartref addas.

Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw achosion o gysgu allan y maen nhw'n eu gweld yn eu cymunedau, fel bod Tîm Tai y Cyngor yn gallu ymyrryd a chynnig help.  Er ei fod yn arbennig o bwysig yn ystod ysbeidiau o dywydd oer, gofynnwn i aelodau o'r cyhoedd i gysylltu â'r Gwasanaeth Tai ar 01597 827464 os ydynt yn pryderu am rywun sy'n cysgu allan.