Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi gwybod i ni am gwn yn baeddu

Mae'n drosedd gadael i gi sydd yn eich rheolaeth i faeddu ar "dir dynodedig", os na fyddwch yn glanhau'n syth wedi iddo faeddu.
Image of a person walking a dog

 

Deddf Cwn (Baeddu ar Dir) 1996

Mae'n drosedd gadael i gi sydd yn eich rheolaeth i faeddu ar "dir dynodedig", os na fyddwch yn glanhau'n syth wedi iddo faeddu. Mae "tir dynodedig" yn cynnwys y canlynol:

  • Palmentydd
  • Ymylon ffyrdd a thir wrth briffyrdd gydag uchafswm cyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr neu'n is
  • Pob darn o dir sy'n eiddo i'r cyhoedd ac o fewn cyrraedd i'r cyhoedd o fewn trefi a phentrefi
  • Caeau chwarae, parciau, meysydd chwarae, meysydd hamdden, gwersylloedd gwyliau, safleoedd carafanau, meysydd parcio, safleoedd picnic a mynwentydd
  • Llwybrau troed cyhoeddus a llwybrau ceffyl sy'n dangos arwyddion "Dim Cwn yn Baeddu"
  • Pob ardal chwarae, hamdden a phicnic mewn tafarndai a gwestai.

Lle bod achos o droseddu, gall y Cyngor gyflwyno rhybudd dirwy penodol neu gychwyn ar gamau gweithredu cyfreithiol.

 

Sut ydw i'n cwyno am gwn yn baeddu?

Rhoi gwybod i ni am gwn yn baeddu yng Mhowys Rhoi gwybod i ni am gwn yn baeddu yng Mhowys

 

Beth ddylwn i ei wneud os yw fy nghi wedi baeddu?

Ewch â bag plastig gyda chi bob tro i godi'r baw cyn gynted ag y bydd eich ci wedi baeddu a'i osod yn y bin sbwriel neu fin baw cwn agosaf. Os nad oes bin gerllaw, ewch â'r gwastraff adref a chael gwared ohono'n ddiogel yno.

 

Ydw i'n gyfrifol os ydw i'n cerdded ci rhywun arall?

Ydych, yr unigolyn sy'n gyfrifol am y ci ar adeg y drosedd yw'r un fyddai'n cael dirwy neu'n cael ei gyhuddo.

 

Gofyn am arwyddion 'Dim Cwn yn Baeddu' neu finiau baw cwn

Cysylltwch â ni ac ar yr amod fod yr ardal yn "dir dynodedig", byddwn yn codi arwyddion lle bo hynny'n briodol a/neu ystyried a oes angen biniau. Bydd unrhyw fin newydd a gaiff ei osod yn fin cyfansawdd ar gyfer sbwriel a gwastraff ci.