Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi gwybod am gerbydau sydd wedi'u gadael

Ar hyn o bryd bydd Cyngor Sir Powys ond yn symud cerbydau oddi ar dir preifat ar gais y tirfeddiannwr.

Os bydd tirfeddiannwr eisiau symud cerbyd o'i eiddo, rhaid yn gyntaf ceisio dod o hyd i berchennog y cerbyd.  Gall y tirfeddiannwr gysylltu â'r DVLA i ofyn iddynt ddod o hyd i berchennog y cerbyd.  Os na fydd hyn yn llwyddiannus, gall y tirfeddiannwr gysylltu â'r heddlu i weld a oes ganddynt ddiddordeb yn y cerbyd.  Mae gan y tirfeddiannwr yr hawl i symud y cerbyd.

Bydd Cyngor Sir Powys yn gallu symud cerbyd ar ran tirfeddiannwr os ydyn nhw'n gallu dangos eu bod wedi gwneud pob ymdrech rhesymol i gysylltu â pherchennog y cerbyd (er enghraifft rhoi rhif digwyddiad yr heddlu a rhoi copiau o unrhyw ohebiaeth i'r cyngor).  Rhaid hefyd dangos dogfennau Cofrestrfa Tir i'r cyngor, gan gynnwys ciplun o'r gofrestr a map o ffiniau'r tir.

Ar ôl derbyn cais i symud cerbyd oddi ar dir preifat, y tirfeddiannwr fydd yn gyfrifol am gostau a ddaeth i ran y cyngor o ran presenoldeb swyddog, gwaith gweinyddol, symud a storio'r cerbyd.

Dylid anfon manylion at: parking@powys.gov.uk

Cyn rhoi gwybod am gerbyd sydd wedi'i adael, dylech wirio a yw wedi'i drethu ac a oes ganddo MOT dilys.  Os yw wedi'i drethu a bod ganddo MOT dilys, mae'n annhebyg y bydd wedi'i adael.  Gallwch wirio statws cerbyd ar  https://www.gov.uk/check-vehicle-tax

Gallwch hefyd roi gwybod am gerbyd sydd heb dreth ar Report an untaxed vehicle - GOV.UK (www.gov.uk) neu roi gwybod am gerbyd sydd heb MOT (os oes angen un) ar  Report a vehicle with no MOT - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Os byddwn yn dod ar draws cerbyd sydd wedi'i adael, byddwn yn gosod rhybudd symud arno.  Dros y dyddiau nesaf, byddwn yn ceisio dod o hyd i geidwad cofrestredig olaf neu berchennog presennol y cerbyd.

Os nad yw'n bosibl dod o hyd i'r ceidwad neu'r perchennog neu os na fydd yn symud y cerbyd, yna bydd y cerbyd a'r holl gynnwys yn cael ei symud ar ddiwedd y cyfnod rhybudd a'i waredu bythefnos yn hwyrach.

Ar hyn o bryd mae'n costio dros £370 i ni symud cerbyd ac rydym yn gwneud ein gorau glas i adfer y costau hyn o'r ceidwad neu'r perchennog diwethaf.

 

Rhoi gwybod am gerbydau sydd wedi'u gadael Ffurflen rhoi gwybod am gerbyd gadawedig