Toglo gwelededd dewislen symudol

Graeanu yn y Gaeaf

Yn ystod tywydd gwael byddwn yn ceisio trin cymaint o'r ffyrdd â phosibl, ond bydd hyn yn dibynnu ar y tywydd a'r adnoddau sydd ar gael. Weithiau bydd yn rhaid i ni flaenoriaethu.

Pan fydd rhagolygon y tywydd yn awgrymu y bydd rhew neu eira, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ar y dudalen yma am ba ffyrdd  fydd yn cael eu graeanu. Byddwn hefyd yn dweud wrthych faint o'r gloch y disgwyliwn wneud hyn.

Bydd graeanwyr yn gorchuddio'r holl brif ffyrdd ym Mhowys am 12am a 29 Mawrth 2024.

Mewn Argyfwng

Os oes angen cymorth meddygol arnoch ar frys, cysylltwch â'r gwasanaethau brys trwy ffonio 999. Byddant yn cysylltu â ni os oes angen.

Beth am fy nhriniaeth feddygol /gofalwyr?

Ffoniwch yr adran ysbyty, eich Meddyg Teulu, eich gofalwr neu'r gwasnaethau cymdeithasol, Byddant naill ai yn trefnu'ch triniaeth ar amser neu ddiwrnod gwahanol neu'n trefnu i chi gael y driniaeth sydd ei angen arnoch.

Cofiwch: os na all ein graeanwyr fynd i lawr y ffordd, gallwn ni ddim gwasgaru'r graean. Wrth barcio, cofiwch adael bwlch sylweddol i gerbydau eraill (gan gynnwys cerbydau'r gwasanaeth tân ac ambiwlans) fynd i lawr y ffordd.

Palmentydd a llwybrau

Fyddwn ni ddim yn graeanu'r palmentydd yn fater o drefn, ond pan fydd y tywydd yn wael, mae'n bosibl y byddw yn graeanu mannau prysur fel y prif ardaloedd siopa a'r prif lwybrau at:

  • ganol trefi
  • canolfannau meddygol 
  • ysgolion 
  • adeiladau cyhoeddus