Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor ynglyn â gyrru yn y gaeaf

I weld y newyddion diweddaraf, neu wybodaeth am lifogydd, toriadau yn y cyflenwad trydan, teithio a'r tywyddDarllenwch y cyngor cenedlaethol gan Lywodraeth y DU 

 

Winter Driving Conditions
Cofiwch addasu eich technegau gyrru yn ôl y tywydd:

  • Peidiwch â rhoi gormod o sbardun i'r injan rhag ofn i'ch olwynion ddechrau troelli.
  • Defnyddiwch gêr mor uchel â phosibl er mwyn gwella gallu'r cerbyd i gydio.
  • Wrth ddringo rhiwiau, cynyddwch eich cyflymder yn raddol.
  • Wrth yrru i lawr rhiw, arhoswch mewn gêr isel er mwyn osgoi defnyddio gormod ar y brêc.
  • Breciwch yn ysgafn bob tro, mewn digon o bryd.
  • Peidiwch ag achosi rhwystr ar gyffordd neu gylchfan.
  • Arhoswch yn bellach nag arfer o'r cerbyd sydd o'ch blaen
  • Rhowch fwy o le i feicwyr.
  • Gwyliwch rhag ofn bod cerddwyr o gwmpas, yn enwedig ar groesfan neu ger ysgol.
  • Gwnewch yn siwr bob amser bod yr holl eira neu rew wedi'i glirio o'ch cerbyd, a pheidiwch â gyrru gyda dim ond twll bach wedi'i glirio yn eich ffenestr flaen. Mae hyn yn beryglus - ac mae hefyd yn anghyfreithlon!

 

 

Winter Driving Conditions
Gwrandewch ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn ar eich siwrnai

A yw eich taith yn un wirioneddol angenrheidiol?

Os oes dewis gennych, ystyriwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Os oes gwir angen i chi deithio yn y car, gwnewch yn siwr eich bod yn:

    • Gwrando ar sianel radio leol neu'r BBC i gael y newyddion diweddaraf am y tywydd - mae'r ddau gyfrwng yn darlledu adroddiadau am ffyrdd lleol a gwybodaeth am y tywydd
    • Rhoi gwybod i berthynas neu ffrind eich bod ar y ffordd cyn i chi adael - yn ddelfrydol, rhywun yn y lle rydych yn mynd iddo
    • Caniatáu digon o amser i chi gyrraedd: gadewch yn gynt, a pheidiwch â brysio - gwell hwyr na hwyrach
    • Gwirio bod eich batri'n gweithio'n iawn
    • Gwirio bod eich teiars yn addas
    • Cludo rhaw yng nghist y car
    • Gwefru'ch ffôn symudol yn llawn rhag ofn bod argyfwng yn codi
    • Rhoi digon o danwydd ac olew yn y car. Os ydych yn mynd ar daith hir, ewch â thanwydd gyda chi rhag ofn y bydd ei angen mewn argyfwng. Bydd gorsafoedd petrol weithiau'n cau mewn tywydd gwael!