Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cofrestr Cyhoeddus y Gorchmynion

Mae Cofrestr Cyhoeddus y Gorchmynion yn rhoi manylion unigolion a/neu fusnesau sydd ar hyn o bryd wedi'u gwahardd rhag gwneud gwaith gwerthu tai neu sydd wedi derbyn rhybudd ffurfiol dan Ddeddf Gwerthwyr Tai 1979.

Cofrestr sydd ar gael yn gyhoeddus yw hon, yn unol â darpariaeth y ddeddf, ac nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am, nad yn cymeradwyo na'n honni unrhyw beth ynglŷn â defnyddio'r data sydd ar y gofrestr gan drydydd partïon.

Mae Gorchymyn Gwahardd yn atal unigolion a busnesau rhag cyflawni gwaith gwerthwyr eiddo ar rai telerau. Gallai hyn atal rhywun rhag gwneud gwaith gwerthu eiddo mewn rhan benodol o'r DU, neu gyflawni gwaith penodol o fewn amgylchedd gwerthwyr eiddo. Mae torri amodau gorchymyn gwahardd yn drosedd. Nid yw'r gorchmynion yn cynnwys terfyn amser, ac maent yn parhau am oes yr unigolyn neu'r busnes, oni bai eu bod yn cael eu diddymu neu'u hamrywio mewn ffordd arall.

Rhybuddion ffurfiol fod gweithredu unigolyn neu fusnes yn annerbyniol yw Gorchymyn Rhybuddio fodd bynnag. Mae hyn yn caniatáu'r unigolyn neu'r busnes i barhau â'r gwaith gwerthu eiddo, ond bod hynny o fewn set gaeth o amodau. Os ydynt yn torri amodau'r Gorchymyn Rhybudd neu'n parhau â'u hymddygiad annerbyniol, efallai y byddant yn dod yn destun Gorchymyn Gwahardd.

Os byddwch:

  • Yn gweld gwybodaeth all fod yn anghywir
  • ac os ydych ag amheuon bod rhywun wedi torri orchymyn gwahardd neu rybudd
  • ac os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am y Gofrestr Gwerthwyr Tai

Anfonwch e-bost at estate.agency@powys.gov.uk

Dan Adran 6 Deddf Gwerthwyr Tai 1979, gall unrhyw un sydd wedi derbyn gorchymyn gwahardd neu rybudd ar unrhyw adeg, ar dalu ffi (£2,500 ar hyn o bryd), wneud cais i Gyngor Sir Powys i amrywio neu ddiddymu'r Gorchymyn.

Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn: Warning orders and prohibition orders (bristol.gov.uk)