Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhoi gwybod am broblem coelcerth

Dywedwch wrthym ni am broblemau gyda mwg a choelcerthi a chanfod yr hyn sydd angen i chi ei wybod wrth gynllunio coelcerth.
Image of a bonfire

Dweud wrthym ni am goelcerthi

Os yw eich cymydog yn goleuo coelcerthi sy'n achosi niwsans i chi, dylech drafod hyn gyda'ch cymydog yn y lle cyntaf a dweud wrthynt yn gwrtais sut mae'r goelcerth yn effeithio arnoch chi. Yn aml, nid yw pobl yn ymwybodol o'r ffordd mae mwg yn chwythu ac oherwydd hynny, yr effaith a gaiff arnoch chi.

Os yw eich cymydog yn parhau i oleuo coelcerth sydd yn eich barn chi dal i achosi niwsans, wedi i chi drafod y mater, gallwch ddweud wrthym ni am y niwsans trwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.

Cael coelcerth

Os ydych wedi ystyried y dewisiadau eraill ac mai coelcerth yw'r dewis ymarferol gorau o hyd i waredu â'ch gwastraff gardd, dylech sicrhau eich bod yn cymryd y rhagofalon canlynol:

  • Rhybuddiwch eich cymdogion - gall cynnau coelcerth greu niwsans i'ch cymdogion yn enwedig os yw'n ddiwrnod braf hyfryd gyda dillad ar y llinell ddillad a ffenestri ar agor
  • Llosgwch ddeunydd sych yn unig - mae hyn yn debygol o achosi llai o fwg
  • Peidiwch byth â llosgi sbwriel o'r cartref, teiars rwber nac unrhyw beth sy'n cynnwys plastig, ewyn na phaent - gall y rhain achosi allyriadau niweidiol
  • Peidiwch byth â defnyddio hen olew injan, meths neu betrol i gynnau neu annog y tân
  • Dylech osgoi cynnau tân mewn amodau tywydd anaddas - mae mwg yn hongian yn yr aer ar ddyddiau llaith ac yn y nos. Os yw'n wyntog, efallai y bydd y mwg yn cael ei chwythu i mewn i erddi cymdogion ac ar draws ffyrdd
  • Dylech osgoi llosgi ar benwythnosau ac ar wyliau'r banc pan mae pobl eisiau mwynhau eu gerddi
  • Peidiwch byth â gadael tân heb ei oruchwylio neu ei adael i fudlosgi

Beth ellir ei wneud am broblemau coelcerthi?

Dim ond os ydynt yn achosi niwsans i eraill y mae coelcerthi yn anghyfreithlon. Y farn gyffredinol yw bod yna is-ddeddfau yn gwahardd coelcerthi neu'n cyfyngu ar y dyddiau neu'r amserau y maent yn cael eu caniatau - nid oes is-ddeddfau o'r fath.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Gellir defnyddio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i ddelio gyda phobl sy'n ymddwyn yn afresymol ac yn achosi niwsans statudol i gymdogion. I gael eich ystyried yn niwsans statudol, byddai rhaid i goelcerth fod yn broblem barhaus fel arfer. Os yw rhywun yn achosi niwsans parhaus, gall hyn arwain at orfod cymryd camau cyfreithiol a gall yr unigolyn dderbyn dirwy o hyd at £5,000.

Os ydym yn teimlo fod coelcerth yn un digwyddiad yn unig neu nad oes digon o dystiolaeth wedi'i gasglu i gyfiawnhau cyflwyno rhybudd, a'ch bod ddim yn hapus gyda hyn, gallwch gymryd camau cyfreithiol eich hunan dan Adran 82 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Fodd bynnag, rhaid i chi allu profi eich achos mewn llys ac oherwydd hynny, mae'n bosibl y byddwch am gyflogi cyfreithiwr.

Llosgi gwastraff o safle arall

Mae'n drosedd dod â gwastraff o safle arall a'i losgi, er enghraifft, masnachwyr yn dod â gwastraff adref a'i losgi. Boed os ydynt yn achosi niwsans statudol ai peidio, maent yn cyflawni trosedd.

Llosgi gwastraff ar eiddo masnachu

Os yw coelcerth yn cael ei gynnau ar eiddo masnachu neu ddiwydiannol, yna rhoddir pwer ychwanegol dan Ddeddf Aer Glân 1993 lle mae coelcerth yn gollwng mwg tywyll neu ddu.

Perygl i ddefnyddwyr y ffyrdd

Os yw'r mwg o goelcerth yn achosi perygl i ddefnyddwyr y ffyrdd, mae gan yr heddlu bwerau i ddelio gyda hyn a dylech roi gwybod iddynt am y digwyddiad.