Toglo gwelededd dewislen symudol

Treth y Cyngor: Pan fydd rhywun yn symud allan neu mewn / nôl i'ch cartref

 

  • Meddiannaeth Unigol (lle mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn eiddo)

Os mai y chi yw'r unig oedolyn cymwys sy'n byw mewn eiddo, gallwch fod yn gymwys am ostyngiad o 25%.

Ffurflen gostyngiad Treth y Cyngor ar gyfer Meddiannaeth Unigol Council Tax: Single Person Discount Claim form

 

  • Peidio â hawlio Meddiannaeth Unigol

Os ydych wedi bod yn hawlio Meddiannaeth Unigol a bod angen i chi beidio â'i hawlio - os nad chi yw'r unig oedolyn cymwys sydd bellach yn byw yn yr eiddo (mae rhywun wedi symud i mewn neu'n ôl yn byw gyda chi).

Ffurflen i beidio â hawlio Meddiannaeth Unigol Treth y Cyngor - rhoi'r gorau i hawlio Meddiannaeth Unigol

 

  • Trefniadau i fyfyrwyr

Efallai na fydd rhaid i oedolyn sy'n fyfyriwr, prentis neu hyfforddai dalu Treth y Cyngor. Os yw hynny yn gadael dim ond un oedolyn cymwys yn y cartref, gall yr oedolyn sy'n weddill fod yn gymwys am ostyngiad Meddiannaeth Unigol o 25%.

Rhagor o wybodaeth a ffurflenni Treth y Cyngor: Help i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion

 

  • Os ydych yn symud i mewn/symud yn ôl at rywun 

e.e. symud yn ôl i mewn gyda'ch rhieni ac mai y nhw fydd yn talu treth y cyngor neu eich bod yn symud i lety arall a rennir.

Dywedwch wrthym ni os ydych yn symud i mewn gyda rhywun ym Mhowys sy'n talu bil treth y cyngor Rydych yn symud mewn/symud nôl gyda rhywun (rhywun arall yn talu'r bil)

 

  • Yn yr ysbyty neu mewn gofal yn barhaol

Os oes oedolyn wedi symud allan o'ch cartref i aros mewn ysbyty, cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio yn barhaol, ni fyddant yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.

Dywedwch wrthym ni pan fo oedolyn yn yr ysbyty neu mewn gofal yn barhaol Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

ac

Dywedwch wrthym ni os yw'r eiddo heb ei feddiannu'n barhaol erbyn hyn Hawlio Eithriad

 

  • Pobl yn y carchar neu mewn canolfannau cadw cyfreithiol eraill

Os ydych chi neu oedolyn yn eich cartref wedi cael eich cadw gan orchymyn llys mewn carchar, ysbyty neu unrhyw fan arall, nid yw'r unigolyn hwnnw yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.

Dywedwch wrth yr Adran Treth y Cyngor pan fo oedolyn yn cael ei gadw dan glo Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor