Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Apply for planning permission

Gallwch gyflwyno cynigion cynllunio ar-lein ar y cyd â'r Porth Cynllunio Cenedlaethol sef adnodd ar-lein Llywodraeth y DU ar gynllunio a rheolau adeiladu yng Nghymru a Lloegr.

Systemau draenio cynaliadwy. O 7 Ionawr 2019 bydd yna ddeddfwriaeth newydd sy'n golygu ei fod yn orfodol cael systemau draenio cynaliadwy (SuDS) ar gyfer pob datblygiad newydd sy'n cynnwys mwy nag 1 tŷ neu ddatblygiadau newydd gydag ardal adeiladu sy'n fwy na 100m2 (10m x 10m). Ewch i dudalen gwe'r Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCS) neu wefan Llywodraeth Cymru i wybod mwy am y ddeddfwriaeth hon.

Gwneud cais ar-lein

 

Mae Gynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026) yn manylu ar bolisi a chynigion defnydd tir y Cyngor Sir. Cafodd ei fabwysiadu ar 17 Ebrill 2018.  Bydd darllen y ddogfen hon a'i hystyried ochr yn ochr â'r canllawiau cynllunio atodol yn cynnig arwydd o ba mor dderbyniol yw'r cynigion. Dylai felly gael ei ystyried ar gyfer cynnar yn y broses o baratoi cais cynllunio.

Efallai byddai'n well gennych ddefnyddio copiau caled o'r ffurflenni cais.  Gallwch lawrlwytho'r ffurflenni yma.

Gellir gwneud taliadau cerdyn dros y ffôn i Wasanaethau Cynllunio.  Rydym hefyd yn derbyn taliadau siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Powys' a dylid eu hanfon i Wasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG

Cyswllt

  • Ebost: planning.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827161 (9am - 12pm & 1pm - 4pm)
  • Cyfeiriad : Gwasanaethau Cynllunio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau