Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Gwasanaeth Dylunio Peirianegol

Mae'r Gwasanaeth Dylunio Peirianegol (Y Gwasanaeth) yn rhan o Adran Priffyrdd a Thechnegol Cyngor Sir Powys. Mae tua 45 o staff yn yr adran ac mae timau yn Llandrindod, Y Drenewydd ac Aberhonddu. Mae'r Gwasanaeth yn cyflogi Peirianwyr, Technegwyr ac Ecolegwyr Proffesiynol a Chymwys sy'n cyflawni ystod eang o brosiectau amrywiol.

 

Beth rydym yn ei wneud:

Rydym yn dylunio, cynnal a chadw Priffyrdd. Dylunio Adeiladwaith/Pontydd, a'u cynnal a'u cadw. Archwilio ac Asesu Adeiladwaith. Archwilio Diogelwch Ffyrdd. Peirianneg Traffig. Peirianneg Trafnidiaeth. Gwaith Lliniaru Llifogydd. Draenio. Archwiliadau T98. Peirianneg Seilwaith. Asesiadau Effaith Amgylcheddol/Ecolegol. Arolygon Rhywogaethau Gwarchodedig. Peirianneg Geotechnegol. Cyngor ar Reoli Datblygiadau. Rheoli Prosiectau. Paratoi, Caffael a Gweinyddu Contractau. Goruchwylio Safleoedd. Cyngor ar Reoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (CDM). Rôl Prif Ddylunydd. Arolygon Topograffeg.

Dyma rai o'n cleientiaid:

Cyngor Sir Powys: Rheoli Rhwydweithiau, Traffig, Trafnidiaeth, Rheoli Datblygiadau, Eiddo, Ysgolion, Tai, Cynllunio, Iechyd yr Amgylchedd, Hamdden, Hawliau Tramwy, Adfywio, Draenio Tir, Gwasanaeth Eiddo Calon Cymru.

Eraill: Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth CymruNetwork Rail,  Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau BrycheiniogCyngor Sir CeredigionCyngor Gwynedd

Ein Tîm

  • Rheolwr Dylunio - Gareth Price
  • Prif Beiriannydd (Gogledd) - Robert Gilman
  • Prif Beiriannydd (De) - James Harley
  • Prif Beiriannydd (Prosiectau) - Simon Kendrick
  • Prif Beiriannydd (Strwythurau) - Alastair Edwards
  • Prif Beiriannydd (Gwaith) - Robert Williams
  • Ecolegydd Cynllunio a Phriffyrdd - Rachel Probert

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Ardystiedig

ISO 9001:2015 Systemau Rheoli Ansawdd

ISO 14001:2015 Systemau Rheoli Amgylcheddol (wedi'u gweithredu o dan system ardystiedig Cyngor Sir Powys)

BS OHSAS 18001:2018 Systemau Iechyd Galwedigaethol a Rheoli Diogelwch

(Cyngor Sir Powys - Cydweithredu Seilwaith Canolbarth Cymru)