Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Diogelu ym maes Addysg

Mae gan weithwyr, gwirfoddolwyr, darparwyr gwasanaethau dan gontract ac oedolion sydd â chysylltiad â phlant a phobl ifainc gyfrifoldeb clir i hybu lles plant a phobl ifainc ac i gymryd camau pan fyddant yn amau neu'n gweld y gall plentyn neu berson ifanc fod yn dioddef niwed neu gam-drin sylweddol.

Yr hyn rydym yn ei wneud

  • Cynnig cyngor a chymorth i bob ysgol Powys ar faterion diogelu.
  • Mae'r tîm yn cynnig ystod o raglenni hyfforddi ar gyfer Uwch Berson Dynodedig (ysgolion UBD) a Chyrff Llywodraethu
  • Gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Plant ac Ysgolion
  • Cyflwyno Trwyddedau ar gyfer Hebryngwyr a Pherfformwyr
  • Rhoi Trwyddedau Gwaith Cyflogaeth Plant  
  • Darparu polisi diogelu model i ysgolion

Y Tîm

Rheolwr Gwasanaeth, Arweinydd Diogelu Dynodedig ar gyfer Addysg, a Swyddogion Addysg.

Mae'r Tîm ar gael drwy safeguarding.education@powys.gov.uk