Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Recycle location icon

Rhybudd pwysig am Wastraff Cymysg: Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o ailgylchu yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref mae'r Cyngor yn gweithredu polisi 'dim gwastraff cymysg'.  Mae hyn yn golygu fod angen i drigolion didoli eu gwastraff cyn ymweld â'r safleoedd, gan gael gwared ar yr holl ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu. Bydd staff y safle yn gofyn i unrhyw un sy'n dod â gwastraff cymysg i'r canolfannau ailgylchu i'w ddidoli ar y safle.

Os ydych chi'n dod â gwastraff gweddilliol o gasgliad ymyl y ffordd a gollwyd, cofiwch y gellir ailgylchu llawer mwy o ddeunyddiau megis ffilm blastig ac offer trydanol, yn yr HWRCs na thrwy eich casgliad ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol. Rhaid hefyd sortio'r eitemau hyn i'r gwahanol gynwysyddion ailgylchu ar y safle a pheidio â'u cynnwys mewn unrhyw fagiau sbwriel gweddilliol.

Gweler y canolfannau unigol isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ddisgwyliedig gennych cyn teithio i'r canolfannau:

Aberhonddu

Cyfeiriad: Stad Ddiwydiannol Ffrwdgrech, Aberhonddu, Powys, LD3 8LA

Cwmtwrch Isaf

Cyfeiriad: Bethel Road, Cwmtwrch Isaf, Powys, SA9 2HW

Llandrindod

Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Waterloo, Llandrindod, Powys, LD1 6BH

Y Drenewydd

Cyfeiriad: Uned 4 Stad Ddiwydiannol Dyffryn, Ffordd y Trallwng, Newtown, Powys, SY16 3BD

Y Trallwng

Cyfeiriad: Severn Road, Y Trallwng, Powys, SY21 7YE