Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu gwastraff swmpus

Os oes angen i chi gael gwared ar eitemau mawr fel dodrefn neu offer trydanol (gwastraff swmpus), gallwn eu casglu i chi.

Eitemau na allwn eu casglu: Tanciau olew neu nwy gwag, rwbel adeiladwyr, Clymog Japan, asbestos, cemegau / paent, hen wresogyddion storio.

Sut mae trefnu i rywun gasglu'r eitemau?

Gwneud cais i gasglu gwastraff swmpus neu ffôn 0345 6027035 / 01597 827465.

 

Beth fydd y gost?

Gellir casglu hyd at dair eitem arferol am dâl o £38.50.

Bydd rhaid talu mwy i gasglu eitemau trwm sy'n pwyso dros 50kg (e.e. piano), yn dibynnu ar ba mor fawr ac anodd ydyn nhw i'w casglu.

Fe rown ni bris i chi am unrhyw eitemau sydd ddim ar ein rhestr arferol.

Cofiwch y bydd set dridarn yn cael ei ystyried yn dair eitem (os yw'n cynnwys soffa a dwy gadair).  Bydd bwrdd a phedair cadair yn cael eu hystyried yn bum eitem.

 

Newidiadau a chanslo

Os ydych am newid neu ganslo eich archeb, rhaid i chi roi gwybod i ni cyn 12 pm, dau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad a drefnwyd.  Ni fydd yn bosibl canslo'r archeb wedi hynny.

 

Beth am gael gwared â fe am ddim trwy wefannau ar-lein am ddim megis Freegle?

Cysylltiadau

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook

Eich sylwadau am ein tudalennau