Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol

School apply icon

Gallwch weld yr amserlen derbyn ac apeliadau yma

Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)

Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2023-24 (PDF) [2MB]

Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF) [637KB]

Gwybodaeth am sut i wneud cais am le cyn-ysgol yma

Cais am le mewn Ysgol Gynradd

Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/19 - 31/08/20 yn agor ar  Dydd Llun, 2 Hydref 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd derbyniadau oedd Dydd Gwener 5 Ionawr 2024.

I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn Derbyn Medi 2024, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon

Un garfan sydd gan ysgolion cynradd Awdurdod Lleol Powys ymhob blwyddyn ysgol, sy'n cychwyn ar ddechrau tymor yr Hydref wedi i blentyn gyrraedd ei ben-blwydd yn 4 oed.

Sylwer:

Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion cynradd yw Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024.

Nid yw bod â lle mewn dosbarth meithrin neu gyn-ysgol yn gwarantu y bydd y plentyn yn cael lle yn y brif ysgol pan fydd yn cyrraedd ei 4 oed. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am le yn y brif ysgol. Os nad ydych chi'n gwneud cais, a'r ysgol rydych chi wedi'i dewis yn llawn, bydd yr ysgol yn cadw'r lle i'r rheiny sydd wedi eisoes gwneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF) [637KB]
 

Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma

Cais am le mewn Ysgol Iau

Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/16 - 31/08/17 yn agor ar Dydd Llun, 2 Hydref 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd derbyniadau oedd Dydd Gwener 5 Ionawr 2024.

I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn 3 Medi 2024, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.

Bydd Awdurdod Lleol Powys yn trefnu derbyniadau i ysgolion iau yn ystod Tymor yr Hydref cyn dyddiad y trosglwyddo. 

Sylwer:

Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion Gynradd yw Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024.

Nid yw bod â lle yn yr Ysgol Fabanod yn gwarantu y bydd lle i'ch plentyn yn yr Ysgol Iau. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am le yn yr Ysgol Iau yr un fath. Os nad ydych yn gwneud cais am le, a'r ysgol rydych chi wedi'i dewis yn llawn, bydd yr ysgol yn cadw'r lle i'r rheiny sydd wedi eisoes gwneud cais.



I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF) [637KB]

Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma

Cais am le mewn Ysgol Uwchradd

Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/12 - 31/08/13 yn agor ar Ddydd Llun, 18 Medi 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd derbyniadau oedd dydd Gwener 10 Tachwedd 2023.

I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn 7 Medi 2024, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.

Bydd Awdurdod Lleol Powys yn trefnu derbyniadau i ysgolion uwchradd yn ystod Tymor yr Hydref cyn dyddiad y trosglwyddo.

Sylwer:

Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion Uwchradd yw dydd Gwener 1 Mawrth 2024.


Rhaid i ddisgyblion fyw yn ardal ddyrannu'r ysgolion cynradd sy'n bwydo'r ysgol uwchradd. Dylech gadw hyn mewn golwg gan ei fod yn effeithio ar p'un a oes cludiant ysgol ar gael ai peidio.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF) [637KB] 

Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma

Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn

Nid ydych yn newid cartref: Os ydych am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol wahanol ar unrhyw adeg (ac eithrio ar gyfer symud tŷ), dylech drafod hyn gyda Phennaeth yr ysgol bresennol. Yna dylech fynd at  Bennaeth yr ysgol rydych wedi'i dewis, a thrafod y posibilrwydd o dderbyn, gan egluro pam yr hoffech chi newid ysgolion.

Rydych yn newid cartref: Lle gwneir cais oherwydd eich bod wedi symud tŷ, gwnewch yn siŵr bod digon o rybudd i'r trosglwyddiad gael ei ystyried a'i drefnu. Ni all y Tîm Derbyniadau ystyried ceisiadau hyd nes derbyn cadarnhad o ddiwrnod symud.

Os cymeradwyir eich cais am drosglwyddo, bydd eich plentyn yn newid ysgol ar ddechrau tymor neu hanner tymor.

Gwnewch gais am drosglwyddo yn ystod y Flwyddyn yma.

Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn yma Application form for a school place_cym

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2023-24 (PDF) [2MB]

Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma