Toglo gwelededd dewislen symudol

Talu Trethi Busnes

Mae gan Wefan y Swyddfa Brisio yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar brisio eiddo busnes. Mae cyfleuster chwilio hefyd ar y wefan fel y gallwch wirio gwerth ardrethol presennol eich eiddo.

 

Debyd Uniongyrchol

Sefydlu neu ddiwygio debyd uniongyrchol presennol ar-lein mewn 4 cam hawdd:

  1. Cofrestru / Logio mewn i 'Fy Nghyfrif' Powys
  2. Ychwanegu manylion at Broffil eich cyfrif  (enw, cyfeiriad, e-bost a chyfeirnod Trethi Busnes)
  3. Clicio ar Fy Nghyfrif i weld crynodeb Trethi Busnes a chlicio ar y botwm i 'Weld y Cyfrif Llawn'.
  4. Dan y pennawd talu, dewiswch Sefydlu / diwygio Debyd Uniongyrchol.

 

Cerdyn debyd/credyd

Talu trwy gerdyn gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein

Cofiwch  gael eich Cyfeirnod Cyfrif Trethi Busnes wrth law wrth dalu ar-lein.

 Ac

Gallwch dalu gyda cherdyn debyd/credyd ar y rhif ffôn awtomataidd 24 awr: 03300 889 578 .

Cofiwch gael yr anfoneb neu'r cyfeirnod wrth law pan fyddwch yn ffonio.

 

 

Mewn unrhyw Swyddfa Bost

Talwch mewn unrhyw Swyddfa Bost yn y DG neu trwy Paypoint neu Epay.

Defnyddiwch y cod bar talu sydd ar flaen eich bil.

Gwnewch sieciau'n daladwy i Swyddfa'r Post Cyf.

 

 

Trwy'r Post

Gwnewch Sieciau neu Orchmynion Post yn daladwy i Cyngor Sir Powys.

Ysgrifennwch eich Cyfeirnod Cyfrif Trethi Busnes ar gefn eich siec neu orchymyn post. 

Anfonwch eich taliad i PO Box 71, Llandrindod, LD1 9AQ.