Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwydded Cerbyd Masnachol neu Drelar (CVT): Polisi

1. Cyflwyniad

1.1 Bydd gofyn i breswylwyr gyda cherbydau masnachol NEU drelars gael trwydded CVT er mwyn cael mynediad at y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref ym Mhowys. Dim ond un cerbyd masnachol NEU drelar y gellir ei gofrestru fesul cartref ar gyfer trwydded. Ni chaniateir mynediad i unrhyw safle ar gyfer cerbydau masnachol os ydynt yn tynnu trelar.

1.2 Diben y cynllun Trwyddedau CVT yw darparu mynediad i ddeiliaid tai gyda cherbydau neu ôl-gerbydau o fath masnachol i'r safleoedd a chaniatáu i'r Cyngor yr un pryd ymdrin â gwaredu gwastraff busnes yn anghyfreithlon, a fyddai fel arall yn costio i'r cyngor ac yn y pen draw i'r trethdalwr. Bydd y Drwydded CVThefyd yn rhoi rhywfaint o reolaeth i'r Cyngor dros faint o wastraff sy'n cael ei anfon i'r safleoedd hyn.

1.3 Cyfeiriwch at adran 3 y polisi hwn cyn gwneud cais i sicrhau eich bod yn gymwys am drwydded. NID yw trwyddedau ar gael ar gyfer trelars os ydynt i'w tynnu gan gerbyd o'r math masnachol (wedi'u rhestru yn adran 3.2).

2. Y Drwydded Cerbydau ac Ôl-gerbydau Masnachol (CVT)

2.1 Mae trwyddedau CVT ar gael AM DDIM i drigolion Powys sy'n dymuno mynd a gwastraff o'u cartrefi eu hunain i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

2.2 Mae trigolion yn gallu gwneud cais am Drwyddedau CVT a fydd yn eu galluogi i ollwng eu deunydd ailgylchu a sbwriel o'u cartrefi yn unrhyw un o bum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor mewn cerbydau ac ôl-gerbydau sy'n cael eu hystyried yn rhai masnachol dan y polisi hwn (gweler 3.2 isod). 

2.3 Rhaid i'r cerbyd ag angen trwydded CVT fod wedi'i gofrestru i'r preswylydd sy'n gwneud y cais ac i gyfeiriad ym Mhowys. 

2.4 Ni fyddwn ond yn derbyn ceisiadau gan bobl sy'n berchen ail dŷ gyda cherbydau wedi'u cofrestru i gyfeiriad cartref y tu allan i Bowys os byddwch yn rhoi prawf eich bod yn talu Treth y Cyngor llawn ar yr eiddo hwnnw i'r Cyngor. 

2.5 Gall cerbydau cwmni / gwaith gael eu cofrestru i gyfeiriad y tu allan i'r Sir, ond mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod yn byw ym Mhowys. 

2.6 Bydd gofyn i drigolion roi copïau o dystiolaeth o'u cyfeiriad a'u dogfennau V5 (sy'n dangos manylion llawn a pherchnogaeth y cerbyd) gyda'u ffurflen gais, yn dystiolaeth nad ydynt yn berchen ar y cerbyd at ddibenion masnachol. 

2.7 Ni fydd mynediad mewn cerbydau masnachol yn cael ei ganiatáu hyd nes bod y preswylydd yn derbyn ei drwyddedau CVT gan y Cyngor - ni fydd mynediad yn cael ei roi ar gais yn unig. 

2.8 Rhaid i geisiadau gael eu gwneud fesul cartref a gallant gynnwys cofrestru un cerbyd neu ôl-gerbyd masnachol ar gyfer pob cyfeiriad cartref. 

2.9 Bydd trigolion yn cael eu deuddeg trwydded CVT unigol, a fydd yn caniatáu cyfanswm o ddeuddeg ymweliad â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer pob cartref mewn un flwyddyn . 

2.10 Gallai preswylwyr wneud cais am un set o Drwyddedau CVT (12 ymweliad) ar gyfer pob cyfnod o 12 mis yn unig. Ni ellir gwneud cais am drwyddedau ychwanegol nes i'r deuddeg ymweliad cael eu defnyddio. 

2.11 Bydd gan y Drwydded CVT gofrestriad penodol, a dim ond y cofrestriad a nodir ar y drwydded fydd yn cael mynediad i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.   Sim ond un dwydded i bob cerbyd. 

2.12 Ar gyfer ceisiadau am drwyddedau trelars, bydd angen cael ffurflen V5 y cerbyd awdurdodedig (gweler adran 3.1) a fydd yn tynnu'r trelar.

2.13 Rhaid cyflwyno Trwydded CVT i staff y safle bob tro y bydd cerbyd masnachol neu drelar yn cael ei ddefnyddio yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Os yw preswylydd yn ymweld â chanolfan fwy nag unwaith mewn diwrnod, bydd pob ymweliad yn cael ei gyfrif ar wahân. 

2.14 Nid yw trwyddedau yn benodol i'r safle ac nid oes ganddynt ddyddiad 'dod i ben'. 

2.15 Ni fydd y Drwydded CVT yn caniatáu i wastraff masnachol gael ei ddwyn i mewn i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Os bydd cynorthwywyr safle yn amau bod y gwastraff o darddiad masnachol mae ganddynt hawl i atal y defnyddiwr rhag gollwng y deunydd hwnnw. Bydd staff y safle yn trosglwyddo manylion y deiliad Trwydded CVT i dîm Ymwybyddiaeth a Gorfodi'r Cyngor ar gyfer ymchwiliad pellach. 

2.16 Os yw manylion y cerbyd yn newid, yna rhaid i unrhyw drwyddedau CVT a gyhoeddwyd yn flaenorol gael eu dychwelyd cyn y bydd rhai newydd yn cael eu darparu. Bydd y trwyddedau sy'n disodli'r rhai gwreiddiol yn cyfateb o ran niferoedd. Er enghraifft, os gwneir cais am newid rhif cofrestru lle mae saith ymweliad wedi digwydd, yna bydd yr un newydd yn cynnwys pum trwydded CVT. 

2.17 Os yw deiliad tŷ yn gwerthu cerbyd rhaid peidio â throsglwyddo'r Trwyddedau i'r perchennog newydd. Byddai angen i'r perchennog newydd wneud ei gais ei hun. 

3. Pa gerbydau fydd/na fydd angen Trwyddedau CVT?

3.1 Ni fydd angen trwyddedau ar gyfer y cerbydau awdurdodedig canlynol:

Ceir

SUVs

Cludwyr pobl hyd at 9 sedd barhaol (yn amodol a adran 3.3)  

Carafanau modur a Cherbydau Gwersylla, sydd wedi'u *trosi'n llawn (yn amodol ar adran 3.3). 

Ôl-gerbydau hyd at 1.4m o hyd ac wedi eu tynnu gan unrhyw un o'r uchod

*Yn unol â'r Adran Drafnidiaeth, ystyrir for cerbydau gwersylla (campervans) wedi'u 'trawsnewid yn llwyr' os oes ganddynt, seddi a bwrdd, lle cysgu a all fod wedi'u trosi o'r seddi, cyfleusterau coginio a storio.

Bydd y cyfleusterau uchod yn sownd i'r lle byw, ond efallai bod modd symud y bwrdd yn hawdd.  

3.2 Bydd angen trwyddedau ar gyfer y cerbydau canlynol (yn amodol ar Adran 3.3): 

Ceir â llythrenwaith arnynt (ac eithrio ceir cwrteisi a thacsis)

Unrhyw gerbydau sydd wedi'u llogi a cheir cwmni 

Ôl-gerbydau dros 1.4 m o hyd a hyd at 2.4m (mae hyd y trelar yn cyfeirio at y lle y gellir ei ddefnyddio yng ngwely'r trelar, heb gynnwys y bachiad). Dim ond ar gyfer trelars sy'n cael eu tynnu gan gerbydau a restrir yn adran 3.1 y caniateir trwyddedau a mynediad felly at Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref. NI ellir tynnu trelars gan gerbydau a restrir yn adran 3.2.

Pob fan (unrhyw gerbyd gydag un neu fwy o baneli yn yr ochrau neu'r cefn) 

Pob tryc bach agored 

Pob Land Rover Defender (gan gynnwys pob Land Rover yn y cyfresi cynnar) 

3.3 Nid yw'r cerbydau sydd wedi'u rhestru isod yn gymwys i ddefnyddio'r Safleoedd Gwastraff o'r Cartref ac Ailgylchu (gyda Thrwydded neu hebddi):

Unrhyw gerbyd dros 3.5 tunnell pwysau gros cyfreithlon

Unrhyw ôl-gerbyd mwy na 6 metr o hyd

Ôl-gerbydau dros 2.44m o hyd (Mae hyd y trelar yn cyfeirio at y lle y gellir ei ddefnyddio yng ngwely'r trelar, heb gynnwys y bachiad.)

Cerbydau llawr gwastad, ochrau sy'n agor ac sy'n tipio.

Faniau blwch Luton

Cerbydau amaethyddol i gynnwys tractorau, bocsys ceffylau ac ôl-gerbydau stoc

4. Cerbydau i'w llogi

4.1 Gall deiliad tŷ sy'n llogi fan i ollwng gwastraff ei gartref ei hun, wneud cais am drwydded. 

4.2 Bydd yn ofynnol i'r perchennog ddarparu copi o'r cytundeb llogi cerbyd gyda'u cais, yn ogystal â phrawf o gyfeiriad.  

4.3 Mae'r holl gyfyngiadau ar gerbydau a restrir o dan Adran 3 yn berthnasol h.y. os nad yw'r cerbyd yn bodloni'r gofynion o ran maint / math y cerbyd, ni chaniateir iddo gael mynediad i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

4.4 Bydd trwyddedau ar gyfer cerbydau a logir yn cael eu cyflwyno ar sail uchafswm o dri ymweliad fesul aelwyd bob blwyddyn. Gellir rhannu'r tri ymweliad rhwng un, dau neu dri threfniant llogi ond ni fydd yn fwy na thri ymweliad mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.

5. Defnyddio cerbyd cwmni / gwaith

5.1 Gallai trigolion ym Mhowys ddefnyddio cerbyd masnachol eu cyflogwr (ar yr amod fod y cerbyd yn cydymffurfio ag Adran 3 uchod) i ollwng gwastraff eu cartref eu hunain mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Sir. 

5.2 Bydd angen i'r cais gynnwys copi o'r manylion perchnogaeth, prawf cyfeiriad yn ogystal â chaniatad ysgrifenedig gyda manylion y cerbyd gan y cyflogwr (ar bapur pennawd y cwmni).

5.3 Ni fydd trwyddedau CVT i gerbydau cwmni / gwaith yn cael eu darparu yn ychwanegol at unrhyw Drwydded CVT arall a gofrestrwyd i'r cyfeiriad cartref hwnnw. 

5.4 Bydd cerbydau cwmni / gwaith derbyn trwydded yn cael eu cyflwyno ar sail uchafswm o dri ymweliad fesul aelwyd bob blwyddyn. Gellir rhannu'r tri ymweliad rhwng un, dau neu dri threfniant llogi ond ni fydd yn fwy na thri ymweliad mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis. 

6. Cerbydau wedi'u haddasu

6.1 Bydd cerbydau sydd wedi'u haddasu at ddibenion penodol preswylydd ac sy'n destun Adran 3.3 y polisi hwn yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar gyfer trwydded CVT ar sail unigol. Mae'n bosibl y bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r addasiadau a/neu fanylion eu hamgylchiadau, yn ogystal â'r wybodaeth a restrir yn Adran 7.3  i'r Cyngor.

7. Y broses ymgeisio

7.1 Bydd y broses o wneud cais ar gael i drigolion o 1 Medi 2017.

7.2 Gellir cwblhau ceisiadau am Drwydded CVT drwy:

Ffurflen ar-lein ar wefan y Cyngor a fydd yn gofyn am i gopïau wedi'u sganio o'r dogfennau a restrir yn Adrannau 2, 4 a 5 uchod gael eu hatodi i'r cais.

Cysylltu â chanolfan cyswllt cwsmer y Cyngor ar 0345 6027035

7.3 Bydd gofyn i drigolion ddarparu'r wybodaeth a ganlyn fel rhan o'r broses o wneud cais:

Enw a chyfeiriad llawn

Rhif Ffôn

Cyfeiriad e-bost

Rhif cofrestru'r cerbyd

Gwneuthuriad a model y cerbyd

Manylion y geiriad os oes ysgrifen ar y cerbyd

Copi o brawf o'ch cyfeiriad, copi o'r V5, cytundeb llogi a /neu lythyr gan eich cyflogwr yn ôl yr angen

8. Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Ffurflenni Datgan Gwastraff y Cartref

8.1 Mae Trwyddedau CVT yn rhoi caniatâd i drigolion gyda cherbydau ac ôl-gerbydau masnachol fynd i mewn i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, nid ydynt yn Drwyddedau i ollwng unrhyw fath o wastraff. Bydd unrhyw ddeunydd (mathau a meintiau) sy'n cael ei gludo i safleoedd yn ddarostyngedig i Gontract Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRC) Cyngor Sir Powys.

8.2 Bydd y Ffurflenni Datgan Gwastraff y Cartref yn parhau i gael eu defnyddio yn y CAGC ym Mhowys. Pan fydd staff y safle yn amau y gallai preswylydd fod yn cyflenwi gwastraff masnachol i Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref byddant yn gofyn i'r unigolyn gwblhau Ffurflen Datganiad Gwastraff y Cartref i wirio bod y gwastraff yn dod o'i aelwyd ei hun. Bydd copïau o'r ffurflenni hyn yn cael eu hanfon ymlaen at y Cyngor at ddibenion monitro ac ymchwiliad pellach yn ôl y gofyn. 

9. Gweinyddu Cynllun Trwyddedau CVT

9.1 Bydd y cynllun Trwydded CVT yn cael ei weinyddu gan y Cyngor.

9.2 Bydd pob cais am Drwydded CVT yn cael ei gofnodi a bydd y wybodaeth yn cael ei monitro gan y Cyngor.

9.3 Bydd yr holl Ffurflenni Datgan Gwastraff y Cartref yn cael eu cadw a bydd y wybodaeth yn cael ei chofnodi a'i monitro gan y Cyngor. 

9.4 Os bydd preswylydd yn colli ei Drwyddedau CVT, bydd y Cyngor yn darparu rhai newydd gan gyflwyno trwydded newydd sy'n caniatáu nifer cyfatebol o ymweliadau.

9.5 Os bydd preswylydd yn newid ei gyfeiriad, yna rhaid iddo roi gwybod i'r Cyngor fel y gellir diweddaru ei fanylion ar y system. Ni fydd angen Trwyddedau newydd ar gyfer newid cyfeiriad. 

9.6 Os bydd preswylydd yn newid ei gerbyd ac nad oes arno angen Trwyddedau CVT mwyach rhaid iddynt roi gwybod i'r Cyngor a dychwelyd unrhyw Drwyddedau CVT heb eu defnyddio. Rhaid peidio â throsglwyddo Trwyddedau CVT i berchennog newydd y cerbyd.

9.7 Os yw preswylydd yn newid ei Gerbyd Masnachol, bydd yn rhaid iddo/iddi roi gwybod i'r cyngor ac yna gwneud cais am Drwyddedau CVT newydd, gan ddarparu'r ddogfennaeth ofynnol fel y gwnaeth gyda'i gais gwreiddiol. Bydd ei fanylion yn cael eu diweddaru a bydd Trwyddedau CVT newydd a chyflwynir trwydded newydd sy'n caniatáu nifer cyfatebol o ymweliadau mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.

9.8 Bydd yr holl Drwyddedau CVT a ddefnyddir yn cael eu cofnodi gan y Cyngor i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gyfreithlon. Bydd trwyddedau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi dim ond ar ôl i ddeuddeg o drwyddedau CVT gael eu defnyddio. Gellir gwneud cais am ddyraniad newydd o ddeuddeg trwydded CVT unwaith yn unig, ar gyfer pob cyfnod o ddeuddeg mis. 

9.9 Mae gan staff yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi'r Cyngor yr hawl i atal mynediad i unrhyw breswylydd sydd â thrwydded y maent yn amau sy'n torri unrhyw ran o bolisi'r Trwyddedau CVT.