gwelededd ddewislen symudol Toggle

Gweld rhybudd llawn

Hysbysiad: Dim gwasanaeth mapiau ar y wefan 21ain Mawrth

Digwyddiad recriwtio gweithwyr cymdeithasol

Image of social care worker with client

28 Chwefror 2023

Os ydych chi'n chwilio am gyfle newydd ym maes gwaith cymdeithasol, mae cyfleoedd gwych ar gael gyda Chyngor Sir Powys.

Cynhelir pob digwyddiad rhwng 4pm - 7pm:

  • The Holiday Inn, Yr Amwythig ar ddydd Mawrth 21ain Mawrth (SY2 6LG)
  • Lion Quays, Croesoswallt ar ddydd Llun 27ain Mawrth (SY11 3EN)
  • Gwesty'r Bear, Crughywel ar ddydd Mawrth 28ain Mawrth (NP8 1BW)
  • Nant Ddu Lodge, Cwm Taf ar ddydd Mercher 29ain Mawrth (CF48 2HY)

Mae buddion gwych yn gysylltiedig â gweithio i Gyngor Sir Powys, megis llwythi achos rheoladwy, trefniadau gweithio hyblyg, cymorth busnes dynodedig, pecyn adleoli o hyd at £8,000, a thaliad atodol ar sail y farchnad ar gyfer rhai swyddi penodol.

Cynigir cyfleoedd gweithio hyblyg, felly byddwch yn gallu gweithio o leoliad sy'n addas ichi a'ch anghenion busnes. Gall hyn olygu gweithio o gartref, ein swyddfeydd neu adeiladau cymunedol yn agos at eich cartref. Felly os oes gennych ddiddordeb mewn swydd newydd ym maes gwaith cymdeithasol, edrychwn ymlaen at eich gweld mewn un o'r digwyddiadau a chlywed mwy ynghylch pam mae'n lle gwych i weithio.

Am ragor o wybodaeth: becky.higginson@powys.gov.uk

 

Cymerwch gip ar ein swyddi gwag Swyddi Gwag

Gweithio yn ein Gwasanaethau Gweithio yn ein Gwasanaethau