Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei chynnal dros wyliau'r haf ymhob rhan o'r DU. Ar gyfer 2022, mae'r Asiantaeth Ddarllen wedi cyfuno â'r Grŵp Amgueddfa Wyddoniaeth i greu 'Teclynwyr', Sialens sy'n ymwneud â gwyddoniaeth ac arloesedd!
Nod y sialens yw darllen 6 llyfr dros wyliau'r haf. Bydd y rhai sy'n cwblhau'r Sialens yn derbyn medal a thystysgrif, taleb nofio i'r teulu am ddim a bydd eu henwau'n cael eu cynnwys mewn raffl.
Mae dwy ffordd o roi cynnig ar y sialens eleni:
Ewch i'ch llyfrgell leol, cofrestrwch ar gyfer y sialens, a dewiswch eich 6 llyfr o'r dewis eang sydd ar gael.
Os ydych rhwng 4 ac 11 oed, gallwch gofrestru ar-lein yn www.sialensddarllenyrhaf.org.uk i gael y sialens ddigidol. Darllenwch o leiaf 6 o lyfrau, naill ai rhai sydd gennych gartref, neu e-lyfrau neu e-lyfrau sain wedi'u benthyg o BorrowBox (https://powys.borrowbox.com).
Gwyddom fod darllen er pleser yn bwysig i ddatblygiad plant, ac y bydd cymryd rhan yn sialens Ddarllen flynyddol yr Haf yn eu helpu i barhau i ddarllen gydol gwyliau haf yr ysgol.
Llyfrgelloedd Powys a 'Mad Science and Xplore! Science Discovery Centre'
Sesiynau a gynhelir gan Xplore! Science Discovery Centre
Dydd Mawrth 2/8/22 Llyfrgell Tref-y-clawdd 11 - 12 ebost knightoncomm@gmail.com ffôn 01547 428088
Dydd Mawrth 2/8/22 Llyfrgell Tref-y-clawdd 2 - 3 ebost knightoncomm@gmail.com ffôn 01547 428088