Y Defnydd o'r Iaith Gymraeg yn Ysgolion Powys
Rydym eisiau sicrhau fod addysg cyfrwng Gymraeg ar gael i'r holl blant y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn dymuno iddynt dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg er mwyn i'ch plentyn gael ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Addysg gynradd
Ar lefel gynradd, caiff y Gymraeg ei dysgu ym mhob ysgol fel pwnc sylfaen.
Y ffordd orau o ddod yn hollol rugl yn y Gymraeg yw mynd i ysgol gynradd sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ym Mhowys, mae addysg gynradd cyfrwng Cymraeg ar gael mewn dwy fath wahanol o ysgol:
- Categori 1 - Ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Categori 2 - Ysgolion dwy ffrwd, lle mae'r ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg yn bodoli ochr yn ochr
Mewn ysgolion neu ffrydiau cyfrwng Cymraeg, dysgir y plant trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen (hyd at 7 oed). Mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn brif gyfrwng dysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 (7 i 11 oed), gyda'r Saesneg yn cael ei chyflwyno fel pwnc.
Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn sy'n byw ym Mhowys ac os nad oes ysgol neu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal lle'r ydych chi'n byw, bydd Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant i'r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf ym Mhowys.
Edrychwch ar: Dod o hyd i ysgol ym Mhowys am ragor o wybodaeth am bob ysgol, gan gynnwys manylion cyswllt, gwefannau ac adroddiadau Estyn.
Addysg cyfrwng Cymraeg
Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ar draws Powys, ac ym mhob cyfnod o addysg, o'r cyfnod meithrin, trwy'r cynradd ac ymlaen i'r uwchradd. Daw'r rhan fwyaf o ddisgyblion sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg o gartrefi di-Gymraeg.
Gall dwyieithrwydd ddod â sawl budd i'ch plentyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu llyfryn sy'n darparu rhagor o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg.
Categori 2 - Ysgolion Cynradd Dwy Ffrwd
Ysgol | Ffôn |
---|---|
Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt | (01982) 553600 |
Ysgol Gynradd Dyffryn Trannon, Trefeglwys | (01686) 430644 |
Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion | (01938) 810470 |
Ysgol Gynradd Llanfyllin | (01691) 648207 |
Ysgol Gynradd Llanrhaeadr-ym-Mochnant | (01691) 780352 |
Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth | (01654) 704200 |
Ysgol Gynradd Rhaeadr Gwy | (01597) 810288 |
Ysgol Gynradd Rhiw Bechan, Tregynon | (01686) 650303 |
Ysgol Gynradd Pontsenni | (01874) 636268 |
Ysgol Gynradd Trefonnen, Llandrindod | (01597) 822190 |
Categori 1 - Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg
Ysgol | Ffôn |
---|---|
Ysgol y Bannau, Aberhonddu | (01874) 622207 |
Ysgol Carno | (01686) 420209 |
Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd | (01686) 622162 |
Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan | (01938) 820226 |
Ysgol Glantwymyn | (01650) 511394 |
Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr | (01639) 846060 |
Ysgol Gymraeg y Trallwng | (01938) 552005 |
Ysgol Llanbrynmair | (01650) 521339 |
Ysgol Llanerfyl | (01938) 820294 |
Ysgol Pennant, Pen-y-bont-fawr | (01691) 860326 |
Ysgol Pontrobert | (01938) 500394 |
Addysg Uwchradd
Yn y cyfnod uwchradd, dysgir y Gymraeg fel pwnc ym mhob ysgol, ac mewn nifer o ysgolion, y Gymraeg yw cyfrwng dysgu'r pynciau eraill.
Er nad oes unrhyw ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, mae darpariaeth Gymraeg uwchradd ar gael mewn ffrydiau Cymraeg mewn nifer o ysgolion uwchradd ar draws y Sir. Er bod nifer a natur y pynciau a gaiff eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio rhwng ysgolion uwchradd, nod Cyngor Sir Powys a phob ysgol uwchradd sydd â ffrwd Gymraeg yw i ddysgu cymaint â phosibl o bynciau yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob Cyfnod Allweddol, er mwyn sicrhau cyfle cyfartal a darpariaeth gyfartal ar gyfer yr holl ddisgyblion ym Mhowys.
Yn ardal Ystradgynlais, mae Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant allan o'r sir i ddarpariaeth uwchradd Gymraeg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Ewch i: Dod o hyd i ysgol ym Mhowys am ragor o wybodaeth am bob ysgol, gan gynnwys manylion cyswllt, gwefannau ac adroddiadau Estyn.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod y Cyngor yn llunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg bob tair blynedd. Mae'r Cynllun yn manylu ar sut y bydd y cyngor yn datblygu addysg cyfrwng-Cymraeg i gynyddu nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn cyfrannu at strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2017-2020 ar gael trwy'r ddolen ganlynol: