Treth y Cyngor: Adolygu Disgownt i un person
Rydym yn parhau i adolygu disgowntiau a fydd yn helpu i adnabod ceisiadau twyllodrus ymhlith talwyr treth y cyngor sy'n ceisio twyllo'r system.
Bob blwyddyn mae awdurdodau lleol ar draws y wlad yn derbyn nifer fawr o geisiadau am ddisgownt i berson sengl. Yn anffodus nid yw pob un o'r ceisiadau hyn yn rhai go iawn, a'r un fath â'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau ar gam, mae'r bobl hyn yn hawlio gostyngiadau ffug ar eu biliau.
Trwy ddeddfwriaeth, mae'n bosibl erlyn twyllwyr treth y cyngor yr un fath â thwyllwyr budd-daliadau, a hynny trwy'r llysoedd a'u gorfodi i ad-dalu'r arian.
Byddwn bob amser yn sicrhau bod pob cais am ddisgownt yn rhai go iawn. Ond, ar adegau fe all fod yn anodd esbonio amgylchiadau. I helpu yn y sefyllfaoedd hyn, rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau cyson sy'n gallu codi dros gyfnod yr adolygiad.
Cliciwch yma i gwblhau eich Adolygiad o Ostyngiad Un Person ar-lein
Beth ddylech chi wneud nawr?
Cadarnhewch eich manylion cyfredol trwy glicio ar y ddolen Adolygu Disgowt Person Sengl uchod. I gael hyd i'ch ffurflen bydd angen i chi roi eich rhif PIN unigryw. Gallwch ddod o hyd i'r rhif PIN hwn ar y llythyr yr ydym wedi anfon atoch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ewch i'r adran Cwestiynau Cyson ar Ddisgowntiau i Berson Sengl.
Cwestiynau Cyson ar Ddisgowntiau i Berson Sengl
Cysylltiadau
Y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig. Ein nod yw cael digon o staff ar gael yn ystod yr oriau hyn i helpu i wella'r amser y mae'n cymryd i ateb galwadau.
Eich sylwadau am ein tudalennau