Ysgol Bro Hyddgen Machynlleth
Mae Cyngor Sir yn ymgynghori ar gynnig i symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm ieithyddol.
Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar y cynigion canlynol:
- Gwneud newid wedi ei reoleiddio i newid cyfrwng dysgu Ysgol Bro Hyddgen o Ddwyieithog (dwy ffrwd) i cyfrwng Gymraeg
- Byddai hyn yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o amser , flwyddyn wrth flwyddyn, gan ddechrau gyda Derbyn ym Medi 2022
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion (2018) a Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 8 Rhagfyr 2020 a bydd yn gorffen ar 26 Ionawr 2021.
Ddogfennaeth Ymgynhori
Gwneud ymateb
I ymateb i'r ymgynghoriad, gallwch:
- Lenwi'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad - fersiwn ar-lein ar gael isod neu fersiwn Word ar gael uchod
- Anfon e-bost at y Tîm Trawsnewid Ysgolion - school.consultation@powys.gov.uk
- Ysgrifennu at y Tîm Trawsnewid Ysgolion, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG
Mae copïau papur o'r ddogfen ymgynghori ar gael trwy gysylltu â'r Tîm Trawsnewid Addysg gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma