Swyddfa ardal newydd Y Trallwng i'w alw'n Tŷ Maldwyn.

Tachwedd 17, 2020
Cyhoeddodd yr awdurdod y bydd swyddfa Cyngor Sir Powys yn Y Trallwng yn cael ei alw'n Tŷ Maldwyn.
Bydd yr adeilad ar Brook Street yn creu lle swyddfa i staff y cyngor - gyda chanllawiau Covid-19 - yn ogystal â lle diogel i staff gofal cymdeithasol gwrdd â theuluoedd.
Bydd staff yn symud i'r adeilad ym mis Rhagfyr. Mae rhan olaf y gwaith yn digwydd ar hyn o bryd a bydd y staff yn symud o Neuadd Maldwyn i leoliad mwy canolog yn y dref. Bydd Neuadd Maldwyn yn cael ei addasu'n llety Gofal Ychwanegol i bobl hŷn mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai ClwydAlyn - yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Eiddo: "Bydd Tŷ Maldwyn yn cynnig llety modern, Covid-19 diogel i'n staff sydd angen mynd i'r swyddfa a/neu cwrdd â defnyddwyr gwasanaethau. Rydym wedi bwrw ati'n bragmataidd gyda'r gwaith hwn, yn prynu dodrefn newydd lle'r oedd angen ond hefyd wedi ail-ddefnyddio rhai dodrefn o Neuadd Maldwyn.
"Roedd Neuadd Maldwyn yn adeilad prydferth, ac mae'n dal i fod, ond fel lle swyddfa, nid oedd yn addas i'r diben. Pan fydd staff yn dechrau defnyddio Tŷ Maldwyn, rydym yn gobeithio y byddan nhw'n bles gyda'r cyfleusterau modern a golau, ac wrth gwrs, y bydd defnyddwyr gwasanaethau hefyd yn elwa o'r amgylchedd newydd."