Newidiadau i bortffolios y Cabinet

18 Tachwedd 2020
Mae mân newidiadau i gyfrifoldebau cabinet Cyngor Sir Powys wedi'u cwblhau gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris.
Heddiw (dydd Mercher, 18 Tachwedd) cyhoeddwyd y newidiadau i'r Cabinet, gyda'r Cynghorydd James Evans yn ymddiswyddo a'r Cynghorydd Iain McIntosh yn cael ei benodi. Dim ond rhai gwasanaethau'n fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn.
Mae'r newidiadau'n golygu y bydd Gwasanaethau Cefn Gwlad yn symud drosodd i'r Cynghorydd Heulwen Hulme o'r Cynghorydd Aled Davies a bydd y Cynghorydd Graham Breeze bellach yn gyfrifol am Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach, Cynllunio ar gyfer Argyfwng a Diogelwch Cymunedol.
Mae gweddill y cyfrifoldebau portffolio yn aros yr un fath.
Dywedodd y Cynghorydd Harris: "Rydym yn wynebu heriau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen ar hyn o bryd ac roedd angen i mi sicrhau bod gan fy nghydweithwyr yn y Cabinet y cyfrifoldebau cywir i sicrhau y gallwn ganolbwyntio ar gefnogi'r cyngor ac anghenion y sir.
"Bydd y newidiadau rwyf wedi'u cyhoeddi yn dod i rym ar unwaith."
Bydd cyfrifoldebau portffolio'r aelodau fel a ganlyn:
- Cyngh. Rosemarie Harris, Arweinydd
- Cyngh. Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar faterion Cyllid a Thrafnidiaeth
- Cyngh. Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg
- Cyngh. Graham Breeze, Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Llywodraethu Corfforaethol, Ymgysylltu a Rheoleiddio
- Cyngh. Phyl Davies, Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo
- Cyngh. Heulwen Hulme, Aelod Portffolio ar faterion yr Amgylchedd
- Cyngh. Iain McIntosh, Aelod Portffolio ar faterion Datblygu Economaidd, Cynllunio a Thai
- Cyngh. Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant