Rhestr ddarllen Darllen yn Well i Blant
18 Tachwedd 2020
Mae Darllen yn Well i Blant yn darparu gwybodaeth, storiau a chyngor â sicrwydd ansawdd i helpu gydag iechyd meddwl a lles plant.
Lansiwyd rhestr lyfrau newydd 'Llyfrau ar Bresgripsiwn' yng Nghymru fis diwethaf i gydfynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Ymysg y pynciau dan sylw oedd iechyd meddwl, pryderon, teimladau, y byd o'ch cwmpas, ymdopi ag amserau anodd a byw gyda chyflwr iechyd.
Dewisiwyd y llyfrau a'u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol ochr yn ochr â phlant a theuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio - Pobl Ifanc a Diwylliant: "Trwy gynnig llyfrau fel modd cyfeirio annibynnol, mae'n annog pobl ifanc i reoli a wynebu eu cwestiynau eu hunain. Mae hyn yn golygu eu bod yn dysgu sut i fod yn hunan-ddibynnol wrth ganolbwyntio ar faterion iechyd a lles."
"Dewisiwyd y llyfrau ar y rhestr hon i sicrhau eu bod yn cynnig y wybodaeth orau a fwyaf perthnasol i'n plant a theuluoedd. Rwy wir yn gwerthfawrogi'r lansiad hwn gan y bydd yn berthnasol o ran yr heriau presennol sy'n deillio o Covid 19. Rydym yn ymwybodol bod y sefyllfa wedi cael effaith ar ein pobl ifanc yn barod ac y bydd yn parhau i gael effaith am amser i ddod."
Mae'r rhestr lyfrau wedi'i thargedu at blant Cyfnod Allweddol 2 (7 - 11 oed) ond mae'n cynnwys llyfrau ar gyfer amrywiaeth o lefelau darllen i helpu darllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda'u brodyr a chwiorydd a gofalwyr.
Gallwch fenthyg y llyfrau o'ch llyfrgell leol a gallwch hefyd fenthyg rhai fel e-lyfrau a llyfrau llafar.
Mae gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru i gynnig llyfrau Cymraeg.
I ymuno â'ch llyfrgell leol ym Mhowys ac i wybod mwy am fenthyg y llyfrau hyn, cysylltwch â'r gwasanaeth llyfrgelloedd ar 01597 827460 neu library@powys.gov.uk
Am fwy o wybodaeth ar Ddarllen yn Well i Blant, ewch i: https://reading-well.org.uk/books/books-on-prescription/children