Larwm syrthio a larwm achub bywyd
Sut y gallwn ni helpu!
Defnyddio technoleg i helpu pobl Powys i barhau i fyw gartref.
Dyma Gareth
Mae Gareth yn byw ar ei ben ei hun yn ei dŷ mewn pentref ym Mhowys.
Mae Gareth yn gwneud yn dda ...
Ond weithiau mae e'n siglo ar ei draed rhywfaint.
Ac unwaith cwympodd e.
Mae gennym dechnoleg a all helpu.
Rhoeon ni larwm cwympo a larwm Lifeline iddo. Mae'n gwisgo'r larwm am ei arddwrn.
Os bydd Gareth yn cwympo eto, bydd ei larwm yn hysbysu canolfan gyswllt 24/7, ac maen nhw'n cadw'i fanylion.
Trwy gael rhywun ar alwad o hyd, mae Gareth yn gallu parhau i fyw yn ei gartref ei hun ... gyda'i ieir!
Dysgwch fwy.
Galwch Wasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion CYMORTH ar 0345 602 7050.