Cyfle i ariannu prosiectau cymunedol arloesol newydd

18 Tachwedd 2020
Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau arloesol sy'n cael eu harwain gan y gymuned ym Mhowys i geisio mynd i'r afael â heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Cyngor Sir Powys sy'n cyflwyno 'Arwain', rhaglen LEADER ym Mhowys, gyda'r nod o helpu cymunedau gyflwyno atebion cynaliadwy a hyrwyddo datblygiad gwledig.
Ariennir y rhaglen trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Rhaid i brosiectau cymwys ddangos angen cymunedol. Bydd y gefnogaeth yn cael ei dargedu'n bennaf at brosiectau bychain dan arweiniad mentrau cymdeithasol, busnesau, grwpiau neu unigolion.
Fe allai'r nawdd gynnig cyfle i brofi syniadau newydd, cynnal ymchwil ac astudiaethau dichonoldeb neu ddatblygu sgiliau penodol. Mae Arwain am geisio ariannu prosiectau yn y meysydd canlynol:
- Iechyd a Lles
- Sgiliau
- Ynni adnewyddadwy a newid yn yr hinsawdd
- Mynediad at wasanaethau
- Trafnidiaeth
Dywedodd y Cynghorydd Iain Mcintosh, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd: "Mae'r rhaglen hon yn gyfle gwych i fynd i'r afael ag anghenion lleol trwy edrych ar ffordd newydd o gyflwyno prosiectau arloesol yn ein sir.
"Rwy'n gwybod fod pobl wedi dioddef colled ariannol oherwydd y pandemig, felly rwy'n falch fod Cyngor Sir Powys yn gallu helpu sefydliadau cymunedol fynd ar ôl adnoddau.
"Mae cymunedau Powys wedi bod yn gryf dros ben eleni felly rwy'n gobeithio'n fawr y bydd nifer o brosiectau haeddiannol yn gallu elwa o'r cynllun hwn.
"Mae'r rhaglen yn gallu ariannu hyd at 80% o gostau cyffredinol prosiect, gydag uchafswm o £100,000. Rwy'n annog sefydliadau cymunedol i ystyried y cyfle hwn yn fanwl ac i anfon cais cyn y dyddiad cau."
Ychydig o arian sydd ar ôl a'r dyddiad cau yw hanner nos, nos Lun 30 Tachwedd 2020.
Am fanylion pellach ewch i: www.arwain.wale