Ysgol Uwchradd Y Trallwng

23 Tachwedd 2020
Bydd ysgol uwchradd yng ngogledd Powys yn cau am bythefnos oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion o'r coronafeirws, dywedodd y cyngor sir.
Bydd Ysgol Uwchradd Y Trallwng ar gau i ddisgyblion tan ddydd Llun 7 Rhagfyr oherwydd achosion yn yr ysgol a'r gymuned ehangach sy'n effeithio ar ddysgwyr a staff.
Bydd dysgwyr yn derbyn gwersi ar-lein dros y pythefnos nesaf wrth i athrawon gyflwyno gwersi rhithwir o'r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: "Mae uwch-dîm arwain Ysgol Uwchradd Y Trallwng wedi cyflwyno nifer o fesurau i sicrhau diogelwch a lles dysgwyr a staff dros y pandemig.
"Ond mae'r ffaith fod nifer yr achosion yn codi yn yr ysgol a'r gymuned yn peri pryder i arweinwyr yr ysgol a'r cyngor.
"Oherwydd y pryderon hyn, penderfynwyd cau'r ysgol am bythefnos i gadw dysgwyr a staff yr ysgol yn ddiogel.
"Mae staff addysgu Ysgol Uwchradd Y Trallwng wedi ymrwymo i sicrhau y bydd dysgwyr yn derbyn gwersi ar-lein dros y pythefnos nesaf.
"Rydym yn gofyn i rieni/gwarcheidwaid sicrhau bod eu plant yn mynychu'r gwersi ar-lein dros y cyfnod hwn."
Bydd rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn gwybodaeth bellach gan yr ysgol maes o law.