Penodi Pum Swyddog Gwarchod y Cyhoedd Newydd

24 Tachwedd 2020
Mae'r Cyngor Sir wedi cyhoeddi bod pum swyddog gwarchod y cyhoedd newydd wedi cael eu recriwtio ym Mhowys i helpu atal lledaeniad y Coronafeirws.
Bydd y swyddogion newydd - sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru - yn cryfhau ymateb y sir i'r feirws drwy gefnogi cymunedau i gydymffurfio â'r rheoliadau diweddaraf.
Er y bydd y swyddogion yno'n bennaf i roi cyngor a chymorth, byddant hefyd yn ymchwilio cwynion a thoriadau honedig o'r rheolau a lle bo angen, yn cymryd camau gorfodi megis cyflwyno hysbysiadau statudol.
Bydd y swyddogion newydd yn dechrau eu gwaith ar 24 Tachwedd a bydd yn gweithio nosweithiau a phenwythnosau yn rheolaidd ochr yn ochr â chydweithwyr yn Heddlu Dyfed Powys, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Breeze, Aelod Cabinet ar faterion Gwasaethau Rheoleiddio: "Mae swyddogion yn gweithio bob awr o'r dydd i ddarparu'r cyngor angenrheidiol ac i archwilio safleoedd masnachol i sicrhau bod mesurau diogelwch digonol ar waith, ond gyda nifer yr achosion o Covid-19 yn dal yn uchel, mae angen y cymorth ychwanegol arnom.
"Bydd y pum swyddog newydd o gymorth mawr i Dîm Ymateb Rhanbarthol Covid-19, gan ddarparu cyngor hanfodol yn ogystal â thargedu mannau trosglwyddo posibl ledled y sir.
"Drwy weithio gyda busnesau, y gobaith yw y gallwn sicrhau bod y mesurau diogelwch heriol ond hanfodol ar waith i ddiogelu Powys. Dymunwn yn dda i'r swyddogion newydd yn eu swyddi."