Enwebu Llyfrgell Ardal Y Drenewydd am Wobr

25 Tachwedd 2020
Mae staff yn Llyfrgell Ardal Y Drenewydd wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Tîm Llyfrgell Cymru'r Flwyddyn 2020.
Mae'r wobr, sy'n newydd eleni, yn dathlu cyflawniad timau sy'n gweithio mewn llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth ledled Cymru. Y nod yw gwobrwyo'r rheiny sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned, neu sydd wedi gwella gwasanaethau llyfrgell a dangos arfer a phartneriaethau blaengar.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant: "Mae hwn yn newyddion rhyfeddol. Rydym yn falch dros ben bod tîm Llyfrgell Y Drenewydd yn un o dri thîm i gyrraedd y rhestr fer am y wobr hon. Maen nhw wedi cael eu dewis o blith timau ar draws Cymru gyfan.
"Mae hwn yn gyflawniad rhagorol i'r staff ac yn dra haeddiannol. Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw ac yn edrych ymlaen at glywed y canlyniadau terfynol yr wythnos nesaf."
Bydd y tîm buddugol yn cael ei gyhoeddi yn Niwrnod Agored a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CILIP Cymru Wales, ddydd Iau 3 Rhagfyr 2020.
Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno gan Yr Arglwydd Elis-Thomas AS, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a Nick Poole, Prif Weithredwr CILIP, y sefydliad gwybodaeth a llyfrgelloedd.
Dywedodd Maureen Jones, Llyfrgellydd Cangen: "Mae tîm brwdfrydig a blaengar wedi bod yma erioed yn Llyfrgell Ardal Y Drenewydd. Yn ystod adeg Covid-19 maen nhw wedi cyflawni llawer o wasanaethau newydd; o ffonio cwsmeriaid hŷn i ddatblygu cwisiau a chystadlaethau ysgrifennu creadigol a barddoniaeth ar-lein.
"Roedd y tîm yn barod i gofleidio'r newid heriol o gynghori darllenwyr, i ddewis llyfrau ar eu cyfer. Roedd rhaid iddyn nhw wneud hyn wrth ddod i arfer â thechnegau TG newydd ac ansicrwydd aruthrol.
"Maen nhw wedi dangos dawn i addasu a phroffesiynoldeb, gan wneud yn fawr o'u hyfforddiant, eu medrau a'u gwybodaeth. Ar ben hyn maen nhw wedi gweithio'n hwyliog a chyda sirioldeb trwy gydol y cyfnod hwn."
Gallwch chi weld mwy o wybodaeth am y digwyddiad yma: https://www.cilip.org.uk/events/EventDetails.aspx?id=1427366&group=200145