Cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

25 Tachwedd 2020
Mae cynllun i gefnogi staff gofal cymdeithasol yn ariannol sy'n gorfod aros i ffwrdd o'r gwaith oherwydd Covid-19 yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.
Mae'r Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol (SSP) bellach yn fyw ym Mhowys. Mae'r cymorth ar gyfer gweithwyr gofal sy'n gorfod aros i ffwrdd o'r gwaith oherwydd COVID-19 gwirioneddol neu achos a amheuir neu oherwydd bod yn rhaid iddynt hunanynysu.
Efallai y bydd gan staff hawl hefyd i'r taliad hunan-ynysu o £500 a gyhoeddwyd yn gynharach ond dim ond drwy un o'r cynlluniau hyn y gallant gael cymorth, nid y ddau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y taliadau hunan-ynysu yma Taliadau Hunan-Ynysu a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn Cynllun Ychwanegiad at y Tâl Salwch Statudol .
Mae'r cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol bellach yn fyw a bydd yn rhedeg that 31 Mawrth a bydd ceisiadau'n sy'n cael eu hôl-ddyddio i 1 Tachwedd yn gymwys.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae'n rhaid i'r unigolyn i fod yn:
- yn weithiwr cyflogedig mewn cartref gofal cofrestredig (gan gynnwys cartrefi plant)
- yn weithwyr cyflogedig mewn gwasanaeth gofal cartref
- yn weithiwr gofal asiantaeth neu nyrs asiantaeth (gyda gwaith wedi'i drefnu gyda chartref gofal cofrestredig neu wasanaeth gofal cartref)
- yn staff cronfa neu staff wrth gefn sydd wedi trefnu i weithio cyfres o sifftiau
- yn staff dan gontract sy'n darparu gwasanaethau hanfodol fel arlwyo rheolaidd mewn cartrefi gofal ac yn cael cyswllt sylweddol â phreswylwyr
- yn gynorthwyydd personol a delir drwy daliadau uniongyrchol
Y Cynghorydd Myfanwy Alexander yw Aelod Cabinet y cyngor â chyfrifoldeb am Wasanaethau Oedolion. Dywedodd: "Mae ein staff gofal wedi bod ar y rheng flaen COVID ac mae hynny wedi creu llawer o anawsterau iddyn nhw. Rwy'n croesawu'r cynllun hwn i gefnogi'r aelodau hanfodol hyn o'n tîm: maen nhw wedi camu i'r adwy yn ystod yr argyfwng hwn."