Gwyliwch rhag sgamiau gwerthu cŵn bach cyn y Nadolig

2 Rhagfyr 2020
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i fod yn ofalus ac i wneud eu hymchwil cyn prynu ci bach y Nadolig hwn neu unrhyw adeg o'r flwyddyn.
Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn nifer fawr o gwynion am werthu cŵn sydd ddim yn iach neu'n cael eu hysbysebu'n gamarweiniol gan fridwyr didrwyddedig, yn ogystal â chodi prisiau uchel dros ben.
Mae'r galw cynyddol am gŵn bach yn golygu bod prisiau wedi codi'n sylweddol gyda rhai bridiau poblogaidd yn gwerthu am £3,000 neu fwy.
Yn anffodus mae'r cynnydd hwn yn arwain at fwy o ffermio cŵn bach lle bydd cŵn bach yn aml yn cael eu bridio mewn amodau gwael gyda pherygl o salwch a biliau uchel i'r perchennog gan filfeddygon.
Cafodd cynnig ei gymeradwyo mewn cyfarfod o'r cyngor llawn i gefnogi deddfwriaeth a ddaeth i rym gan Lywodraeth Cymru i reoli ac efallai gwahardd ffermydd cŵn a chathod bach.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Breeze, Aelod Cabinet ar Wasanaethau Rheoleiddio: "Mae'r galw am gŵn bach wedi chwyddo dros y pandemig a gyda hynny mae'r prisiau hefyd wedi saethu i fyny a nifer o bobl yn cael eu camarwain.
"Os ydych chi'n ystyried prynu ci y Nadolig hwn - neu unrhyw bryd arall - cofiwch brynu wrth werthwr cyfrifol a gonest, a chofiwch am y doreth o gŵn achub sy'n chwilio am gartrefi newydd.
"Mae'r cyfnod hwn tan y Nadolig yn gyfle i werthwyr twyllodrus fanteisio ar bobl sy'n chwilio am anifail anwes newydd. Dyna pam rydym yn cynghori pobl i fod yn ofalus a gwneud eu hymchwil.
"Mae'r tîm Safonau Masnach yn gweithio'n agos â phartneriaid megis yr RSPCA a Heddlu Dyfed Powys i weld pwy sydd wrth wraidd y masnach hwn. Os oes gennych amheuon am fridiwr, peidiwch rhoi arian a cherddwch i ffwrdd."
Dyma rai rhybuddion i fod yn ymwybodol ohonynt cyn mynd i weld ci bach:
• Edrychwch ar broffil y gwerthwr a chwilio am eu henw ar-lein. Os ydyn nhw'n hysbysebu sawl torraid o wahanol fridiau, mae hwn yn faner goch.
• Copiwch a phastio'r rhif ffôn i beiriant chwilio. Os yw'r rhif ffôn yn cael ei ddefnyddio ar nifer o wahanol hysbysebion, safleoedd a dyddiadau, yna mae'n debygol o fod yn werthwr twyllodrus.
• Ni ddylid byth gwerthu cŵn a chathod bach os ydyn nhw dan 8 wythnos oed.
• Gofynnwch pa driniaeth feddygol mae'r anifail wedi'i dderbyn.
Pan yn galw:
· Gwyliwch rhag cynnig i gwrdd rhywle cyfleus e.e. maes parcio neu wasanaethau traffordd sydd i ffwrdd o'r fferm cŵn bach.
· Gwnewch yn siŵr bod y fam yn bresennol - mae'n rhaid i fridwyr cŵn trwyddedig ddangos y cŵn bach gyda'r fam yn y man geni.
· Gwyliwch nad oes yna fam 'ffug' - ni fydd y rhan fwyaf o famau ffug yn cael yr un berthynas â'r cŵn bach gan y byddant yn ofni y bydd y fam iawn yn dychwelyd.
· Gwyliwch am gŵn neu gathod bach yn cael eu galw'n rhai 'achub' ond gyda phrisiau llawer uwch.
· Peidiwch â chael eich rhuthro neu deimlo dan bwysau i wario arian.
· Nid yw'n arferol i weld problemau iechyd ar yr adeg hyn, felly peidiwch â chael eich darbwyllo fel arall.
Am gyngor ar brynu ci bach, ewch i wefan yr RSPCA:
https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/pets/dogs/puppy/choosing
Os oes gennych unrhyw wybodaeth ar fridio anghyfreithlon, cysylltwch â