Cyngor Sir Powys yn dweud y dylai ysgolion aros ar agor tan ddiwedd y tymor

3 Rhagfyr 2020
Dylai ysgolion ym Mhowys aros yn agored tan y dyddiad diwedd tymor cytunedig - oni bai bod rheswm iechyd cyhoeddus dros gau ar frys - meddai'r cyngor sir.
Bwriad y Cyngor yw i ysgolion yn y sir aros ar agor ar gyfer dysgwyr tan ddiwrnod olaf y tymor, sef dydd Gwener 18 Rhagfyr.
Gyda dyfalu a thybio'n cynyddu yn y cyfryngau am ddyddiadau diwedd y tymor i ysgolion ar draws Cymru, mae'r cyngor wedi ystyried yn fanwl a allai cefnogi cau ysgolion ynghynt. Mae wedi ymgysylltu â phartneriaid iechyd cyhoeddus fel rhan o'r trin a thrafod yma.
Mae'r cyngor wedi penderfynu y dylai ysgolion ym Mhowys aros ar agor ar gyfer pob disgybl o oedran ysgol statudol tan ddydd Gwener 18 Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae'r adeg hon wedi bod yn un eithriadol o heriol i'n harweinwyr ysgol, ein staff ysgol, ein dysgwyr a'u rheini. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion i atal lledaeniad Covid-19 yn ein hysgolion.
"Rydym yn deall bod ysgolion a rhieni wedi bod yn holi ynghylch dyddiad diwedd y tymor ac mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn trafod gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys partneriaid addysg ac iechyd.
"Yn dilyn y trafodaethau hyn, rydym wedi penderfynu y dylai ysgolion ym Mhowys aros yn agored tan ddiwrnod olaf y tymor, sef dydd Gwener 18 Rhagfyr.
"Mae sawl rheswm pan rydym am i'n hysgolion aros ar agor tan y dyddiad hwn. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i'n dysgwyr fod mewn amgylcheddau trefnus yn yr wythnosau cyn y Nadolig. Hefyd mae angen cefnogi llawer o ddysgwyr sydd wedi gweld yr ysgol fel rhan bwysig o gadw agwedd meddwl cadarnhaol dros y misoedd diwethaf.
"Oni bai bod ysgol yn profi rheswm iechyd cyhoeddus dros gau ar frys, dylai ein hysgolion aros yn agored.
"Rydym yn disgwyl i addysgu ddigwydd dim ond yn yr ysgol, oni bai bod dysgwyr yn absennol oherwydd bod yr ysgol wedi cau o ganlyniad i Covid-19.
"Rydym yn gwybod y bydd rhaglen frechu'n cael ei chyflwyno ar draws Powys ond ni fydd hon yn cyrraedd mewn pryd i effeithio ar ysgolion cyn y Nadolig.
"O ganlyniad, rydym yn annog ein holl bobl ifanc, ein staff a'n rhieni i wneud cymaint ag y gallan nhw i atal lledaeniad y feirws ym Mhowys trwy gyfyngu ar gyswllt gydag eraill. Hefyd rhaid i ni ddal ati i gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchuddion wyneb a golchi ein dwylo'n rheolaidd.
"Rwyf hefyd yn annog teuluoedd i gadw plant sâl gartref, hyd yn oed os yw eu symptomau i weld yn ysgafn, a dilyn y cyngor meddygol.
"Byddwn ni'n parhau i gydweithio'n agos â'n hysgolion a thrafod sut y gellir trefnu wythnos olaf y tymor i leihau'r peryglon o'r haint yn lledaenu yn ein hysgolion."