Toglo gwelededd dewislen symudol

Raffl Etholiad y Senedd 2021

Raffl fawr i rai 16 ac 17 oed ym Mhowys.

Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd oherwydd Deddf Senedd ac Etholiadau 2020.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn trefnu prosiect i hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch yr hawl i bleidleisio ac i geisio cynyddu nifer y rhai 16 ac 17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio. 

Os wyt ti'n 16 neu'n 17 oed ac yn byw ym Mhowys, ac wedi cofrestru i bleidleisio, fe fyddi di'n gallu cymryd rhan yn ein raffl.   Sylwch mai dim ond unwaith y gallwch gymryd rhan yn y raffl ac os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio ni fyddwch yn gymwys i ennill - byddwn yn gwirio enwau'r enillwyr yn erbyn y Gofrestr Etholiadol ac os nad yw'r enillydd wedi'i gofrestru i bleidleisio yna bydd enw arall yn cael ei dynnu.

Hoffet ti gael y cyfle i ennill iPhone 11?

Y cyfle i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio ym Mhowys yw'r ail newyd fwyaf yn neddfwriaeth Cymru ers 1969.  Ein nod yw annog pob person ifanc ym Mhowys i bleidleisio ac i addysgu pobl am y Senedd a'r broses etholiadol. Fel rhan o hyn rydym yn cynnal raffl sy'n cynnig cyfle i bobl ifanc ennill un o ddau iPhone 11s. Mae'r ddau iPhone yn rhai 64gb ac yn cynnwys EarPods gyda chysylltydd cyflym, cebl USB ac addasydd pŵer USB.

Mae gennym ddau iPhone 11 i'w hennill a'r cyfan sydd angen ei wneud yw:

  1. Cofrestru i bleidleisio: https://www.gov.uk/register-to-vote ('sdim angen cofrestru eto os wyt ti wedi gwneud yn barod)
  2. Darllen yr amodau a'r telerau a llenwi'r ffurflen ganiatâd isod. 
  3. Ar 31/03/2021 byddwn yn tynnu'r raffl ac yn cyhoeddi'r enillydd (mae'n rhaid dy fod wedi cofrestru i bleidleisio i gymryd rhan).

Bydd cyfle i ymgeiswyr dynnu eu henwau nôl o'r raffl tan 31/3/2021 sef dyddiad tynnu'r raffl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ar ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â  holly.casey@powys.gov.uk

Cofiwch mai dim ond unwaith y gallwch gystadlu yn y raffl - ni fyddwn yn cyfrif unrhyw geisiadau eraill