Offeryn hunanwasanaeth newydd ar-lein i gwsmeriaid Ailgylchu Masnachol Powys

8 Rhagfyr 2020
Bydd cwsmeriaid gwasanaeth Ailgylchu Masnachol Powys yn gallu cyrraedd a rheoli eu cyfrifon ar-lein trwy borth newydd y cyngor i gwsmeriaid.
Bydd cwsmeriaid presennol eisoes wedi derbyn manylion ar sut i logio ar wefan y cyngor (www.powys.gov.uk) a chysylltu eu cyfrifon o fewn y porth newydd, er mwyn gallu cyrraedd eu cyfrifon yn gyflym ac yn hwylus 24/7.
Mae nodweddion y gwasanaeth newydd hwn yn ychwanegiad gwych i'r gwasanaeth casglu gwerthfawr ac yn cynnwys:
- gallu gweld manylion eich cytundeb, gan gynnwys lleoliadau safleoedd, y math a nifer y biniau a bocsys, diwrnodau ac amserau casglu a pha mor aml
- defnyddio'r calendr ar-lein i weld pryd mae'r casgliadau a drefnwyd, ychwanegu casgliadau ychwanegol, ad-drefnu casgliadau a gollwyd ac ati
- rhoi gwybod am achosion o fethu casglu
- gofyn am gasgliadau ychwanegol tu hwnt i'r rhaglen arferol
- rhoi gwybod am ddifrod i'r biniau a gofyn am rhai newydd
- archebu sachau a dalwyd amdanynt o flaen llaw
- gweld eich cytundeb a'ch dogfennau Nodyn Trosglwyddo Gwastraff
"Yn ôl y gyfraith (Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Adran 34), mae dyletswydd gofal ar bob busnes, sefydliad ac elusen i sicrhau fod eu gwastraff a'u deunydd ailgylchu'n cael eu prosesu'n gywir, gan gynnwys unrhyw wastraff a ddaw o waith masnachol a wneir o'r cartref", esboniodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet ar gyfer Gwastraff ac Ailgylchu.
"Mae'n bwysig i fusnesau wybod beth y gallan nhw ei wneud neu beidio gyda'u gwastraff i gydymffurfio â'r rheolau hyn ac osgoi unrhyw ddirwyon trwm. Mae gwasanaeth Ailgylchu Masnachol Powys yn gallu gweithio gyda busnesau, sefydliadau ac elusennau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau hyn yn gyfreithlon wrth wneud eu rhan i'r amgylchedd ac ailgylchu gymaint â phosibl.
"Mae'r offeryn hunanwasanaeth newydd hwn yn ychwanegiad gwych i'n gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd yn gwneud pethau'n haws iddynt reoli eu cyfrifon ar flaenau eu bysedd, unrhyw amser o'r dydd."
Dylai cwsmeriaid Ailgylchu Masnachol gofio logio mewn neu gofrestru am 'Fy Nghyfrif Powys' i gyrraedd yr offeryn hunanwasanaeth ar-lein newydd ar wefan Cyngor Sir Powys. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/ailgylchumasnachol
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm yn uniongyrchol: commercial.recycling@powys.gov.uk neu 01597 810829