Casglu sbwriel ac ailgylchu dros y Nadolig

15 Rhagfyr 2020
Ni fydd yna lawer o newidiadau i'r trefniadau casglu sbwriel ac ailgylchu arferol eleni, gan ad-drefnu casgliadau dydd Nadolig (dydd Gwener 25 Rhagfyr) a Dydd Calan (dydd Gwener 1 Ionawr) yn unig.
Bydd y casgliadau dydd Gwener hyn yn symud i ddydd Sul 27 Rhagfyr a dydd Sadwrn 2 Ionawr. Bydd popeth arall yn aros yr un fath.
Diwrnod casglu arferol - Diwrnod casglu newydd
Dydd Llun 21 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Mawrth 22 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Mercher 23 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Iau 24 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Gwener 25 Rhagfyr - Dydd Sul 27 Rhagfyr
Dydd Llun 28 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Mawrth 29 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Mercher 30 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Iau 31 Rhagfyr - Dim newid
Dydd Gwener 1 Ionawr - Dydd Sadwrn 2 Ionawr
Gyda'r gwaith casglu gwastraff yn parhau dros gyfnod yr ŵyl, rydym yn annog trigolion i fanteisio ar y gwasanaeth ac arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gymaint o'u gwastraff â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu: "Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur i bawb, ond mae'n bwysig cofio ailgylchu gymaint â phosibl dros yr ŵyl.
"Mae pob un ohonom yn creu llawer mwy o wastraff na'r arfer dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ond yn ffodus iawn, mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf ohono - ffoil, bwyd, jariau a photeli gwydr, coed Nadolig iawn, cardiau Nadolig a phapur lapio plaen, batris, potiau a photeli plastig - gallwn ni gyd wneud ein rhan i sicrhau ein bod yn ailgylchu gymaint â phosibl.
"Mae'n newyddion da nad oes llawer o newid i'r trefniadau casglu eleni gyda dim ond y trefniadau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan yn newid, felly cofiwch roi eich bocsys ailgylchu allan i'w casglu."
Ewch i'r wefan am fanylion amserau agor y canolfannau ailgylchu lleol a chadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth oherwydd tywydd garw.