Cwblhau'r gwaith ar lain awyr agored Canolfan Hamdden y Flash

18 Rhagfyr 2020
Mae Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure wedi cyhoeddi bod y gwaith i'r llain chwarae awyr agored yng Nghanolfan Hamdden y Flash yn y Trallwng bellach wedi'i gwblhau.
Roedd y gwaith helaeth yn cynnwys gosod arwyneb chwarae awyr agored newydd a chynllun newydd i'r goleuadau ar y llain.
Mae'r cyfleuster newydd wedi'i Ardystio gan y Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol (FIH) ar ôl i'r Sefydliad FIH gynnal profion trylwyr i sicrhau bod yr arwyneb yn bodloni gofynion rhaglen ansawdd FIH ar gyfer arwyneb hoci.
Dywedodd y Cyng Rachel Powell, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Sir Powys ar faterion Gwasanaethau Hamdden: "Rwyf wrth fy modd fod y gwaith wedi'i gwblhau. Bu'n brosiect cymhleth a gafodd ei effeithio gan y pandemig.
"Nid fyddai'r gwaith wedi bod yn bosibl oni bai am ein partneriaeth gref â Freedom Leisure ac mae'n dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau hamdden hygyrch i bob cymuned ym Mhowys.
"Hoffem ddiolch i holl gwsmeriaid a defnyddwyr y ganolfan hamdden yn y Trallwng am eu hamynedd, eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth wrth i'r gwaith yma fynd rhagddo."
Dywedodd Gwyn Owen, Rheolwr Ardal Freedom Leisure ym Mhowys: "Rydym yn falch dros ben fod y llain chwarae yn y Flash yn ailagor, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gymuned yn ôl i chwaraeon awyr agored ar yr arwyneb chwarae newydd."
Roedd y llain i fod i ailagor ddydd Llun 4 Ionawr, 2021. Fodd bynnag bydd nawr yn ailagor pan fydd cyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny.