Gwaith ailwampio yng Nghanolfan Chwaraeon Tref-y-Clawdd

21 Rhagfyr 2020
Bydd gwaith i ailwampio ardal y pwll nofio a'r ystafelloedd newid mewn canolfan chwaraeon yng nghanolbarth Powys yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Cyngor Sir Powys Freedom Leisure wedi cyhoeddi y bydd y gwaith yn digwydd yng Nghanolfan Chwaraeon Tref-y-Clawdd gan ddechrau dydd Llun 4 Ionawr 2021 ac ailagor y pwll nofio ddiwedd Mawrth.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod teils newydd wrth ochr y pwll, gosod ffitiadau newydd yn yr ystafelloedd newid, a lloriau newydd yn y dderbynfa a'r ardaloedd tramwyo.
Bydd cyfleuster newid cynhwysol hygyrch hefyd yn cael ei adeiladu i sicrhau bod pob aelod o'r gymuned yn gallu defnyddio'r cyfleuster.
£200,000 fydd cost y gwaith.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Brecon Business Interiors Ltd o Aberhonddu. Dyfarnwyd y contract iddynt ar ôl proses dylunio a thendro gynhwysfawr. Bydd y cwmni'n gweithio'n agos â Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru.
Dywedodd y Cyng Rachel Powell, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Hamdden: "Croesawyd y buddsoddiad hwn mewn cydweithrediad â'n partneriaid, Freedom Leisure, sy'n cydnabod pwysigrwydd ymarfer, llesiant a sgiliau gydol oes trwy alluogi pobl i nofio.
"Mae adnoddau o'r fach yn cael eu gwerthfawrogi nawr fwy nag erioed o fewn Powys, ac rwy'n siŵr y bydd pob oed sy'n gallu defnyddio'r ganolfan yn gwerthfawrogi'r gwaith gwella yma.
"Gyda'r lleoedd cyhoeddus cyfyngedig sy'n creu egwyddor diogelwch o ran Covid-19, mae ein canolfannau hamdden wedi dangos eu gwerth i lawer o bobl am sawl rheswm gwahanol. Rwyf wrth fy modd fod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud yng Nghanolfan Hamdden Tref-y-Clawdd, gan sicrhau ac annog rhagor o bobl i ymarfer a chynnal eu llesiant corfforol a chyffredinol."