Cymeradwyo achos amlinellol strategol dros ysgol gynradd newydd

22 Rhagfyr 2020
Mae'r bwriad i greu ysgol gynradd newydd gwerth £12.9m yng ngogledd Powys i ddisodli'r hen un wedi symud gam yn nes wedi i Lywodraeth Cymru gymeradwyo cynlluniau newydd a chyffrous a gyflwynwyd gan y cyngor sir.
Cymeradwywyd Achos Amlinellol Strategol (SOC) Cyngor Sir Powys ar gyfer ysgol gynradd newydd ag ynddi 270 o leoedd yn y Drenewydd gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
Bydd y cyngor yn awr yn symud ymlaen i gam Achos Busnes Amlinellol (OBC) y prosiect.
Bydd y cynlluniau buddsoddi'n helpu'r cyngor i gyflenwi ei Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys, sef strategaeth 10-mlynedd uchelgeisiol a gymeradwywyd yn gynharach eleni (Ebrill).
Bydd yr ysgol newydd yn disodli adeiladau cyfredol Ysgol Iau Hafren ac Ysgol Babanod Ladywell Green, sy'n uno i greu ysgol gynradd newydd bob oed. Bydd yr ysgol newydd, Ysgol Calon y Dderwen, yn agor fis Medi 2021.
Mae'r adeilad newydd yn rhan annatod o raglen Llesiant Gogledd Powys - cyfle unwaith bob cenhedlaeth o wella iechyd a llesiant ar draws gogledd Powys - a allai gynnwys campws llesiant aml-asiantaeth yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â'r ysgol newydd, i gyflenwi amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd ar un safle.
Bydd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru'n ariannu 65% o gost yr ysgol gwerth £12.9m, a'r cyngor yn ariannu'r 35% sy'n weddill.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet dros Addysg: "Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein Hachos Amlinellol Strategol dros ysgol gynradd newydd yn y Drenewydd. Mae hyn yn arwydd o fuddsoddiad enfawr yn ein isadeiledd ysgolion.
"Nid yw'r adeiladau ysgol ar hyn o bryd yn addas i ddiwallu anghenion cwricwlwm yr 21ain Ganrif nac ychwaith diwallu anghenion llesiant y disgyblion.
"Fel rhan o'n Gweledigaeth 2025, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf. Credwn fod ein cynlluniau ar gyfer yr ysgol gynradd newydd yn y Drenewydd nid yn unig yn dangos yr ymrwymiad yma ond hefyd yn darparu'r cyfleusterau y mae'r plant yn eu haeddu."