Arhoswch gartref i atal lledaeniad Covid-19

29 Rhagfyr 2020
Mae'r cyngor yn atgoffa ymwelwyr i Bowys a thrigolion y sir bod Cymru bellach ar lefel rybudd 4 ar ôl i nifer fawr o bobl ymgynnull mewn mannau hardd dros y penwythnos.
Mae'r rheoliadau presennol yng Nghymru yn dweud na ddylai pobl ond gwneud ymarfer corff yn agos at eu cartrefi - gan ddechrau ac yn gorffen o le maen nhw'n byw. Dylech ymarfer ar eich pen eich hun neu gydag aelodau'ch aelwyd eich hun neu'ch swigen gefnogaeth. Hefyd, nid yw Cymru'n agored i ymwelwyr sy'n teithio o rannau eraill y DU, oni bai ei bod ar gyfer rhesymau hanfodol megis rhoi gofal neu i weithio pan na allwch chi weithio gartref.
Dywedodd Aelod y Cabinet ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Ymgysylltu a Gwasanaethau Rheoliadol, y Cynghorydd Graham Breeze: "Cefais ysgytwad wrth weld y lluniau dros y penwythnos o niferoedd mawr o bobl yn tyrru i Fannau Brycheiniog i fwynhau'r eira.
"Rydym i gyd yn gwybod bod mynd allan i gael awyr iach yn dda i'ch iechyd meddyliol, ond cadwch at y rheolau ac arhoswch yn agos i'ch cartref.
"Rydym ar lefel rybudd 4 am reswm, oherwydd bod cynnydd uchel a sydyn wedi bod mewn achosion o Covid-19 sy'n effeithio ar bob cwr o Gymru. Mae'n rhoi straen anferth ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'n peryglu bywydau ein trigolion mwyaf bregus.
"Mae gan Bowys lecynnau hardd i ymweld â nhw a byddan nhw yna o hyd i bobl eu mwynhau ar ôl i nifer fawr yr achosion o'r coronafeirws gilio. Efallai na fydd rhai o'ch perthnasau a'ch ffrindiau yma os ydyn nhw'n dal y clefyd angheuol yma.
"Rhaid i bawb chwarae eu rhan ac aros gartref dros y dyddiau a'r wythnosau sydd o'n blaenau - pa mor bynnag deniadol yw codi pac ac anturio i fynyddoedd, bryniau a llynnoedd Cymru.
Dilynwch y cyfarwyddyd cenedlaethol a helpwch i gadw Cymru'n ddiogel: Lefel rhybudd 4: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU
Ewch i Coronafeirws (COVID19) - Powys i weld y diweddariadau a'r wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws (COVID-19) gan y cyngor.